Mae’r murlun yn dogfennu gorffennol diwylliannol a diwydiannol Bethesda
Mae’r murlun, a baentiwyd gan Darren Evans yn rhan o ddathliadau Daucanmlwyddiant Bethesda.
Paentiwyd y gwaith celf ar ochr adeilad yn Nhan Twr, Bethesda, ac mae'n dathlu gorffennol diwylliannol a diwydiannol y gymuned.
Dathliadau Daucanmlwyddiant Bethesda yw prosiect cymunedol diweddaraf Partneriaeth Ogwen, sy'n dathlu 200 mlynedd ers sefydlu Capel Bethesda yn y dref.
Cafwyd ymgynghoriad gyda’r cyhoedd cyn peintio’r murlun, ac mae’n darlunio rhannau pwysig o orffennol Bethesda, gan gynnwys côr dynion a chôr merched Chwarel y Penrhyn.
Ariannwyd y murlun gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i gyd-fynd â chais yr ardal i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Ar ôl cwblhau’r murlun yn ddiweddar, aeth Siân Gwenllian, yr Aelod lleol yn y Senedd draw, ynghyd â’r Cyng. Rheinallt Puw, cynghorydd ward Ogwen ar Gyngor Gwynedd.
Dywedodd AS Arfon;
“Mae gorffennol anhygoel Bethesda fel canolbwynt diwydiannol rhyngwladol yn rhywbeth y mae’r ardal leol yn ymfalchïo ynddo, ac mae’n dda gweld y gorffennol hwnnw’n cael ei gydnabod a’i ddathlu.
“Cynrychiolir ei gorffennol llenyddol gan glawr un o nofelau mwyaf arwyddocaol Cymru Un Nos Ola Leuad, a streic gythryblus Chwarel y Penrhyn gan yr arwydd eiconig “Nid Oes Brawdwr yn y Tŷ Hwn.”
“Mae’r murlun yn ein hatgoffa o gyfraniad aruthrol Bethesda i’r byd.
“Mae’n ychwanegiad gwych i ganol Bethesda, ac mae’r gwaith celf yn drawiadol.”
Ychwanegodd y Cyng. Rheinallt Puw, cynghorydd Plaid Cymru sy'n cynrychioli Bethesda ar Gyngor Gwynedd;
“Dwi’n falch iawn inni ymgynghori â’r gymuned leol, ac mae’r canlyniad yn rhagorol.
“Mae’r gwaith celf yn amlwg, diolch i ymdrech Dyffryn Gwyrdd, a gliriodd Gardd Tan Twr, yr ardd gyhoeddus o dan y wal.
“Mae datblygiadau cyffrous iawn ym Methesda wrth i ni ddathlu daucanmlwyddiant
“Dwi’n gobeithio y bydd trigolion lleol yn cael cyfle i alw draw ac edmygu’r wal.
“Hoffwn ddiolch i bawb a fu’n rhan o’r ymdrech.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter