Mae'r gwrthdaro gwaedlyd yn Syria wedi parhau ers 7 mlynedd, gan orfodi dros 5.5 miliwn o bobl i ffoi o'r wlad a thros 500,000 i golli eu bywydau. Ymunwch yn y rali.
Mae gwrthdaro a ddechreuodd fel rhyfel cartref wedi cynyddu i ryfel procsi amlochrog gydag arian, arfau a milwyr yn llifo i mewn o bob cwr o'r byd er eu budd eu hunain.
Er nad ydym yn cymeradwyo'r ymosodiadau nwy diweddar, nid ydym yn teimlo mai ymateb yn filwrol, gyda chost enfawr i fywydau diniwed, yw'r ymateb priodol.
Ymunwch â ni i anfon neges glir nad ydym am i lywodraeth y DU fynd i rhyfel.
Siaradwyr:
Hywel Williams AS
Anna Jane Evans (Cymdeithas y Cymod)
Cyng Catrin Wager
Hywel Davies (Grwp Heddwch a Chyfiawnder Bangor & Ynys Mon)
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter