Gweithredu yn erbyn cytundeb masnach niweidiol
Cafwyd Diwrnod o Weithredu llwyddiannus iawn ym Mangor dydd Sadwrn gyda 30 o bobl yn codi ymwybyddiaeth am y Cytundeb Masnach TTIP sydd yn cael ei drafod yn gyfrinachol ar hyn o bryd rhwng yr Unol Daleithiau (UDA) a’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac sydd yn cynrychioli bygythiad clir i’n gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau bach a chanolig eu maint, yn ogystal â’n safonau diogelwch bwyd a’r amgylchedd.
Dywedodd Sian Gwenllian, Ymgeisydd Arfon Plaid Cymru yn Etholiad Cymru ar Mai 5:
“Roeddwn yn falch iawn fod Bangor yn un o’r llefydd ar draws Cymru lle cynhaliwyd diwrnod o weithredu drwy rannu taflenni a chasglu enwau ar ddeiseb i wrthwynebu TTIP ac i helpu amddiffyn ein gwasanaethau lleol hanfodol rhag preifateiddio drwy’r drws cefn. Mae’n achos o bryder mawr i mi y gallai’r cytundeb masnach hwn ddinistrio ein cymunedau, gan gyflwyno rheoliadau economaidd sydd yn ffafrio corfforaethau enfawr ac a allai leihau ein safonau bwyd a’n gwarchodaeth o’r amgylchedd yn enw rhoi cyfle cyfartal i gwmnïau enfawr o’r UDA.”
“Diolch yn fawr i bawb ddaeth i’n protestdydd Sadwrn ac i’r cannoedd wnaeth sgwrsio efo ni wrth i ni godi ymwybyddiaeth am beryglon TTIP.”
“Bu’r pwysau cyhoeddus anferth a welwyd drwy Ewrop hyd yma yn effeithiol iawn gan ddodi pwysau ar lywodraethau Ewropeaidd a phleidiau gwleidyddol, ac mae wedi helpu i godi ymwybyddiaeth gyda miliynau o bobl mewn gwledydd ar draws Ewrop. Gyda’n gilydd fe allwn wneud gwahaniaeth a helpu amddiffyn ein gwasanaethau cyhoeddus.”
Roedd y brotest hon yn un o nifer gafodd eu trefnu ar ddydd Sadwrn Ionawr 30 drwy Gymru gyfan fel rhan o ymgyrch Jill Evans ASE i wrthwynebu Cytundeb Masnach TTIP.
Meddai Sian Gwenllian :
“Fy mhrif bryderon ynglŷn â TTIP yw:
1. Cytundeb Cyfrinachol: Mae’r trafodaethau’n cael eu cynnal yn gwbl gyfrinachol a dim ond criw dethol iawn sydd wedi gweld y papurau.
2. Gall cwmnïau erlyn Llywodraethau: Fel mae pethau ar hyn o bryd, o dan delerau’r cytundeb, byddai gan gwmnïau sydd yn dioddef effaith ar eu helw, nawr neu yn y dyfodol, o ganlyniad i bolisi llywodraeth, yr hawl i erlyn y llywodraeth hwnnw.
3. Safonau Is: Fe ddywedan nhw fod angen gwanhau neu ddiddymu rhwystrau masnach er mwyn gallu masnachu’n rhydd. Fodd bynnag, hawliau gweithwyr, gwarchod yr amgylchedd, safonau bwyd a gwarchod defnyddwyr yw’r rhwystrau maen nhw’n eu cyfeirio atyn nhw .
4. Preifateiddio: Gallai hynny olygu ymosodiad arall ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ogystal â gwasanaethau eraill a ddarperir gan y wladwriaeth ar hyn o bryd, ond a allai gael eu preifateiddio.
5. Colli iaith a diwylliant: Mae’n aneglur pa mor fodlon fyddai cwmnïau o’r UDA i gadw at ein safonau ieithyddol a diwylliannol yng Nghymru.”
- Am fwy o wybodaeth byddwch cystal ag ymweld â gwefan Jill Evans ASE: www.jillevansmep.cymru Neu ewch i wefan ymgyrchu y Gwyrddion/EFA ar http://ttip2015.eu/
- Gellir darllen y llyfryn ynglŷn â TTIP (Sut gallai TTIP efeithio ar Gymru) a’i lawrlwytho arlein o http://www.jillevans.net/ttip&chymru.pdf (Fersiwn Gymraeg) http://www.jillevans.net/ttip&wales.pdf (Fersiwn Saesneg):
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter