Wrth i sefyllfa Covid-19 barhau i ddatblygu, dyma ychydig o wybodaeth am ein gwaith fel eich aelodau etholedig yng Nghaerdydd a Llundain.
Mae Sian yn parhau i weithio yng Nghaerdydd ac yn pwyso yn drwm ar y Llywodraeth yno i weithredu, yn arbennig ar hyn o bryd o ran ei chyfrifoldeb am bolisi addysg. Mae Hywel yn gweithio o Gaernarfon ar hyn o bryd ond mae ganddo lawer i'w wneud yn helpu llunio ein hymateb i ddatblygiadau pwysig yn San Steffan.
Mae'r ddau yn cadw cysylltiad rheoliad ac agos gyda'i gilydd a gyda aelodau etholedig eraill, gan gynnwys arweinwyr Llywodraeth Leol. Mae'r ddau, a'r staff gwaith achos hefyd yn ymateb i ymholiadau ac achosion sy'n codi o'r firws ynghyd a'r gwaith arferol.
Yn dilyn cyngor y ddwy Lywodraeth y dylai pawb sy'n gallu gweithio o adra wneud hynny cyn gynted a bod modd, rydym wedi penderfynu cau'r swyddfeydd ym Mangor a Chaernarfon, am y dyfodol agos o leiaf. Felly ar y cyfan bydd ein staff yn gweithio o adra. Bydd hyn yn diogelu ein staff a'r cyhoedd.
Ni fyddwn yn cynnal cymhorthfeydd wyneb yn wyneb ond yn hytrach yn siarad yn uniongyrchol dros y ffôn neu dros y we.
Mae croeso i unrhyw un gysylltu a'r swyddfa ar 01286 672076 gydag unrhyw sylw neu bryder neu ar ebost [email protected] / [email protected]
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter