A hithau’n Ddiwrnod Merched Mewn Peiraneg bu Sian Gwenllian AC Arfon yn dal i fyny gydag un aelod o dîm ‘Gwalch Grymus Cymru’, sef merched o Ysgol Brynrefail, Llanrug a ddaeth i frig cystadleuaeth Formula 1 For Schools yn Malaysia y llynedd. Bu Anna Whiteside Thomas, Tesni Calennig Smith, Beca Medi Jones, Eleanor Edwards-Jones a Elin Worth yn cynrychioli Cymru ac yn cystadlu yn erbyn 35 o wledydd y byd i gyrraedd uchelfannau’r ornest, ar ol ennill rowndiau’r DU.
“Dim ond 8% o’r gweithlu peirianeg sydd yn ferched, a does ‘na ddim rheswm o gwbwl dros hynny heblaw am yr agwedd draddodiadol honno mai swydd i ddynion ydi hi,” meddai Sian Gwenllian, Gweinidog Cysgodol dros Gyfartaledd yn y Cynulliad Cenedlaethol. “Mae merched Brynrefail wedi dangos nad ydi hynny’n wir, gan gystadlu mewn cystadleuaeth creu car rasio – rhywbeth na fyddai hwyrach yn cael ei gysylltu gyda merched. Ond maen nhw wedi profi bod merched yr un mor abl a bechgyn i lwyddo yn y maes yma.”
Roedd rhaid i’r merched gynllunio car rasio cyflym gan greu cynllun busnes a phecyn marchnata i gyd-fynd a’u gwaith, a bu’r profiad yn un sydd wedi eu hysbrydoli yn ol Anna Whiteside Thomas o Lanrug.
"O edrych nol ar y gystadleuaeth rwan, dwi’n sylweddoli mod i wedi elwa llawer ac wedi cael profiadau anhygoel. Mi wnes i ddysgu llawer drwy wneud y gystadleuaeth ac mae o wedi codi fy hyder i yn ofnadwy,” meddai.
"Drwy gwneud y gystadleuaeth dwi wedi meddwl gwneud swyddi na faswn i byth wedi ystyried eu gwneud cynt a dwi’n credu’n gryf fod merched yn gallu gwneud unrhyw swydd maen nhw eisiau ei wneud.
"Mae diwrnod fel Women In Engineering yn bwysig ar gyfer hybu meysydd gwahanol sydd yn fwy tebygol o gael eu galw yn ‘feysydd i ddynion’. Mae diwrnod fel hyn yn annog merched i chwilio am swyddi yn y meysydd yma.
"I ferched ifanc sydd gyda diddordeb mewn maes sydd yn draddodiadol 'i hogia', mi fyswn i yn dweud y dylen nhw fynd amdani. Mae'n bwysig bod merched yn dangos eu gallu ac yn bod yn hyderus yn eu dewis."
Ers cymryd rhan yn y gystadleuaeth mae Anna wedi bod yn annog merched i gymryd rhan mewn chwaraeon gwahanol, gan fod rhagfarn yn bodoli yn y maes hwnnw hefyd ynglyn a beth sydd yn addas neu beidio i ferched.
"Fel rhan o dim Llysgenhadon Aur Gwynedd dwi wedi bod yn helpu efo ymgyrch i hyrwyddo merched mewn chwaraeon. Mae hyn yn ffordd arbennig o geisio rhoi hyder i ferched yn y gobaith y bydd hynny yn ei dro yn dylanwdu ar eu dewis o yrfa."
Bu’r cyfarfod rhwng Sian Gwenllian ac Anna y llynedd pan alwodd yr AC heibio Ysgol Brynrefail i longyfarch y tim yn ysbrydoliaeth i’r ferch ysgol drio ei lwc mewn cystadleuaeth i gael cysgodi ei Haelod Cynulliad am ddiwrnod fel rhan o ymgyrch i ddenu mwy o ferched i wleidyddiaeth, maes arall sydd yn anghyfartal iawn o ran y rhywiau. Roed Anna’n llwyddiannus a threuliodd ddiwrnod gyda Sian yng Nghaerdydd.
“Mae’n wych fod y cystadleuaeth F1 For Schools wedi bod yn ffasiwn ysbrydoliaeth i ferched fel Anna i feddwl eto am eu dewisiadau gyrfa, a’u bod hefyd wedi mynd ati eu hunain i ysbrydoli merched eraill i wneud yr un peth. Dyma engraifft wych o waith mentora yn digwydd yn naturiol wrth i ferched ddechrau gweld y byd o’r newydd a sylweddoli nad oes pendraw ar yr hyn y gallen nhw ei gyflawni.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter