Uned Fasgiwlar Gogledd Cymru: "Rhaid mynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys"

Mae Siân Gwenllian AS wedi ymateb i gyhoeddiad a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr am uned fasgiwlar gogledd Cymru:


“Pan gyhoeddwyd y byddai’r uned fasgiwlar yn cael ei symud o Ysbyty Gwynedd i Ysbyty Glan Clwyd fe wnaethon ni rybuddio y byddai’n arwain at danseilio gwasanaethau i gleifion yn ngogledd orllewin Cymru.

“Fe gollon ni’r arbenigedd oedd ym Mangor, ac fe wireddwyd ein proffwydoliaeth. Yn yr achosion mwyaf difrifol, mae'r sefyllfa wedi dinistrio bywydau yn fy etholaeth ac wedi arwain at farwolaethau.

“A rŵan mae’r cyhoeddiad ynglŷn â stopio'r llawdriniaethau mwyaf difrifol yn Ysbyty Glan Clwyd yn golygu nad oes darpariaeth ar gyfer y math hwnnw o driniaeth yng ngogledd Cymru o gwbl.

“Unwaith eto mae gwasanaethau yn symud ymhellach oddi wrth y bobl y maen nhw i fod i’w helpu.

“Mae Ysbyty Brenhinol Stoke dros 150 milltir o Aberdaron. Gallai lleoli gwasanaethau hanfodol mor bell o'r cymunedau hyn arwain at ganlyniadau trychinebus.

“Ar y llaw arall, gallai parhau â gwasanaeth nad ydi o'n ddiogel hefyd arwain at farwolaethau.

“Dwi'n annog y Bwrdd Iechyd i fynd i'r afael â'r sefyllfa ar frys.”


Dangos 1 ymateb

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.
  • Osian Owen
    published this page in Newyddion 2024-11-19 14:15:30 +0000

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd