Mae Siân Gwenllian AS a Hywel Williams AS wedi mynegi eu siom ynghylch y ‘bwriad dinistriol’ i gael gwared ar 200 o swyddi ym Mhrifysgol Bangor oherwydd diffyg cyllid.
Dywedodd yr ASau dros Arfon, sy’n cynnwys dinas Bangor fod y cyhoeddiad heddiw yn ‘ergyd fawr i’r ardal.’
Ymatebodd Siân Gwenllian;
“Rwy’n hynod bryderus bod y penderfyniad a gyhoeddwyd heddiw yn cael ei ruthro.
Ni ellir gorbwysleisio effaith niweidiol colli swyddi o'r fath mewn ardal fel fy etholaeth.
Fel yr wyf wedi dadlau yn y gorffennol, mae 200 o swyddi mewn ardal fel Bangor yn cyfateb i filoedd o swyddi mewn ardaloedd mwy poblog o’r wlad.
Rwy’n galw ar y Brifysgol i weithredu mewn ffordd mwy pwyllog, ac i drafod gyda’r gweithlu er mwyn osgoi creu drwgdeimlad diangen a allai gael effaith negyddol tymor hir.”
Cyhoeddwyd heddiw bod 200 o swyddi’n cael eu torri ym Mhrifysgol Bangor wrth iddi wynebu diffyg o £13m.
Mae'n hysbys bod Iwan Davies, Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, wedi anfon neges at staff fis diwethaf yn nodi bod 200 o swyddi mewn perygl. Gofynnodd y neges i aelodau staff ystyried diswyddiadau gwirfoddol, gostyngiad yn eu horiau, seibiannau gyrfa, neu ymddeoliadau cynnar.
Dywedodd Hywel Williams AS,
“Rwyf yn meddwl, wrth gwrs, am y rhai a fydd yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad heddiw.
“Mae’n gyfnod anodd i bawb, ac mae prifysgolion wedi cael eu heffeithio gan Covid-19 mewn sawl ffordd.
“Rwy’n deall nad oes penderfyniad terfynol wedi ei wneud a’i gyfleu i’r staff.
“Mae’n rhaid i hawliau staff, ac enw da Bangor fod yn flaenoriaethau.”
Dywedodd Siân Gwenllian AS;
“Rwy’n adleisio swyddogion yr Undeb sydd wedi galw’r cynlluniau hyn yn ‘rhai tymor byr.’
Nododd y Brifysgol mai Covid-19 sydd ar fai am y toriadau hyn, felly oni fyddai’n fwy rhesymol gweinyddu toriadau dros dro, yn hytrach na thoriadau parhaol a fyddai’n cael effaith niweidiol ar yr economi leol?
Siawns y byddai'n fwy o werth torri costau nes y gallwn weld golau ar ddiwedd twnnel y pandemig.
Os bydd y Brifysgol yn parhau gyda’r toriadau hyn rŵan, bydd y swyddi hynny wedi diflannu am byth, a bydd y Brifysgol yn wannach, ac wedi colli rhywfaint o’i bri o ganlyniad.”
Ychwanegodd yr Aelod o’r Senedd dros Arfon, sydd hefyd yn Weinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru y bydd hi, ynghyd â Hywel Williams AS yn cwrdd ag Is-Ganghellor y Brifysgol yr wythnos nesaf.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter