Mae'r ymgyrch cyflwyno mesuryddion clyfar cenedlaethol yn digideiddio'r ffordd yr ydym yn prynu ac yn defnyddio nwy a thrydan.
Ar ôl dysgu mwy am fuddion mesuryddion clyfar mewn digwyddiad yn y Senedd gydag Ynni Clyfar GB, llais yr ymgyrch mesuryddion clyfar, mae Siân Gwenllian AC yn annog ei hetholwyr i ddarganfod mwy am fuddion mesuryddion clyfar.
Gyda mwy na 4 miliwn o fesuryddion clyfar eisoes wedi'u gosod ar draws Prydain Fawr, mae Siân Gwenllian AC yn edrych ymlaen at weld y dechnoleg newydd hon mewn mwyfwy o gartrefi ar draws Arfon. Maer rhai sydd wedi uwchraddio eisoes yn gweld y buddion.
Byddai bron wyth o bob deg (79 y cant) o'r bobl sydd â mesuryddion clyfar eisoes yn eu hargymell i bobl eraill, ac mae cyfran debyg (80 y cant) yn cymryd camau i leihau eu defnydd o ynni (Awst 2016 Rhagolwg ynni clyfar).
Bydd mesuryddion clyfar yn golygu biliau cywir i bawb yn Arfon a gweddill Prydain Fawr heb unrhyw gost ychwanegol. Maent yn dangos yn union faint o nwy a thrydan sy'n cael eu defnyddio mewn punnoedd a cheiniogau, bron mewn amser real. Gyda'r wybodaeth hon bydd defnyddwyr yn gwybod yn union faint fydd y bil nesaf, a gallant wneud penderfyniadau gwybodus am ddefnyddio ynni. Yn olaf, bydd y system hen ffasiwn o orfod mynd i ddarllen y mesurydd ac amcangyfrif yn dod i ben, a bydd chwyldro mawr yn y system ragdalu anghyfleus ar gyfer y 3,533 o etholwyr sy'n defnyddio'r mesuryddion hyn ar hyn o bryd.
Ar ôl clywed mwy am y dechnoleg gan Ynni Clyfar GB, meddai Siân Gwenllian AC:
“Bydd mesuryddion clyfar yn rhoi llawer mwy o reolaeth i ni i gyd ar yr hyn a wariwn ar nwy a thrydan, a byddant yn dod â biliau wedi'u hamcangyfrif i ben o'r diwedd.
Roeddwn wrth fy modd gweld sut bydd fy etholwyr yn elwa o fesuryddion clyfar. Rwy'n annog pawb i ymweld â gwefan Ynni Clyfar GB neu fynd i'w cangen Swyddfa'r Post leol a chodi taflen i gael gwybod mwy am fesuryddion clyfar."
Erbyn 2020 bydd mesurydd clyfar yn cael ei gynnig i bob cartref ym Mhrydain Fawr am ddim. I gael gwybod mwy, cysylltwch â'ch cyflenwr ynni, codwch daflen o'ch cangen Swyddfa'r Post leol neu ewch i www.smartenergygb.org/cy/sut-i-gael-mesurydd-clyfar/sut-gallaf-gael-mesurydd-clyfar/eich-hun.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter