Mae Siân Gwenllian AC wedi addo bod yn bencampwr canser y coluddyn er mwyn arwain newid yn y Cynulliad ac yn ei etholaeth ar gyfer pobl sydd yn cael eu heffeithio gan yr afiechyd.
Canser y Coluddyn yw’r pedwerydd math mwyaf cyffredin o ganser yng Nghymru, ac eto yr ail uchaf i ladd. Pob blwyddyn mae dros 2,200 yn cael diagnosis o’r afiechyd, a dros 900 yn marw yn ei sgil.
Gall rhaglen Sgrinio Coluddyn Cymru ddarganfod yr afiechyd yn gynnar mewn pobl sydd yn dangos dim symptomau, pan mae’n haws ei drin a cyfle gwell o’i oroesi. Llynedd, fe wnaeth llywodraethau yng Nghymru a Lloegr gyhoeddi gostwng oed sgrinio canser coluddyn o 60 i 50 gan ddefnyddio profion “faecal immunochemical test (FIT)”. Bydd cyflwyno’r fenter yma yn arbed mwy o fywydau.
Mi fydd Siân Gwenllian AC yn gweithio gyda Bowel Cancer UK i wella darganfyddiad cynnar a chael mynediad i driniaeth a gofal yn Arfon ac yn genedlaethol. Trwy ddod a phobl at ei gilydd, fel cleifion a theuluoedd, meddygon a nyrsys, gwyddonwyr a gwleidyddion mi fydd Bowel Cancer UK yn creu dyfodol lle bydd neb yn marw o’r afiechyd.
Meddai Siân Gwenllian AC, “Nid yw’n dderbyniol fod cymaint yn marw o ganser y coluddyn pob blwyddyn. Dyna pam dwi’n falch o weithio gyda Bowel Cancer UK fel bod gwir newid yn digwydd trwy fy rôl fel pencampwr canser y coluddyn. Rwy’n edrych ymlaen at ddefnyddio fy swydd yn y Cynulliad i alw am newid fydd yn gallu gwella canlyniad i gleifion. Gyda’n gilydd fe allwn arbed pobl rhag marw o ganser y coluddyn.
Dywedodd Lowri Griffiths, Pennaeth Cymru yn Bowel Cancer UK: “Dwi’n hynod o falch bod Siân Gwenllian wedi addo bod yn bencampwr canser y coluddyn. Mi fydd Siân yn gyd-weithiwr gwerthfawr wrth i ni roi canser y coluddyn ar yr agenda gwleidyddol ac ymgyrchu am welliannau hanfodol i wasanaethau cleifion canser y coluddyn yn genedlaethol ac yn Arfon”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter