Dywedodd Siân Gwenllian MS, gweinidog addysg gysgodol Plaid Cymru:
"Rwy'n galw ar y Gweinidog Addysg a Llywodraeth Cymru i ddysgu o'r anhrefn a achoswyd gyda'r canlyniadau Lefel A pan ddaw at TGAU yr wythnos hon. Mae angen gwneud hynny mor fuan ag sy'n bosib - mae aros tan ddydd Iau yn annerbyniol a bydd yn achosi mwy o bryder ac ansicrwydd i fyfyrwyr.
"Oherwydd y dystiolaeth gynyddol o anghysondebau ac anhegwch, dylai'r Llywodraeth ddefnyddio asesiadau'r athrawon yn hytrach nag algorithm diffygiol. Mae'r Prif Weinidog yn amddiffyn algorithm ac yn dewis siarad ystadegau yn hytrach na chyfleoedd bywyd yr unigolion sy'n cael eu heffeithio."
Ategwyd ei neges gan bennaeth ysgol yn Sir Ddinbych. Dywedodd Geraint Parry, o Ysgol Brynhyfryd:
"Mae'n destun gofid mawr nad yw arweinyddion yma yng Nghymru â'r dewrder i ddilyn yr enghraifft ragorol a roddwyd yn yr Alban lle mae pobl ifanc wedi cael eu rhoi'n gyntaf. Mae ymddiriedaeth a hyder yn Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru a CBAC bellach ar eu hisaf erioed ac rwy’n apelio arnynt i wneud newidiadau pendant cyn y canlyniadau TGAU.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter