Ers ail-agor eu swyddfa ym Mangor wedi iddo gael ei ddifrodi gan dân, mae Siân Gwenllian AC a Hywel Williams AS wedi creu gofod arddangos yno i hybu talent myfyrwyr celf yr ardal.
Mewn bore coffi fore Sadwrn bydd agoriad swyddogol y gofod arddangos, gyda gwaith gan fyfyrwyr cwrs Celfyddyd Gain Prifysgol Bangor yn cael sylw.
Meddai Siân Gwenllian,
"Ro'n i'n awyddus i roi hwb fach i dalent gelfyddydol leol gan ei bod hi'n anodd i fyfyrwyr gael cyfle i arddangos eu gwaith.
Rydym wedi cychwyn gyda gwaith myfyrwyr y Brifysgol ym Mangor, a'r bwriad yw newid y gweithiau bob cwpwl o fisoedd, gan wahodd myfyrwyr Coleg Llandrillo Menai a'r ysgolion uwchradd lleol i arddangos yma. Mae'r lluniau wedi bywiogi'n swyddfa ni'n arw iawn!"
Mae croeso i unrhyw un alw draw i weld y gwaith ac i gael paned a chacen, am 10yb Dydd Sadwrn yn Swyddfa Plaid Cymru Bangor.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter