Galwodd Siân Gwenllian i mewn i Ganolfan Dosbarthu Post Brenhinol yng Nghibyn, Caernarfon i weld dros ei hun prysurdeb sy’n cymryd lle wrth iddynt ddarparu gwasanaeth llwyddiannus yn ystod y Nadolig.
Dymunodd AC Plaid Cymru Nadolig Llawen i’r staff yno a diolchodd i bawb sy’n gweithio’n galed yn y swyddfeydd post ar draws etholaeth Arfon, a hefyd i’r staff yn y ganolfan ddosbarthu ym Mangor, yr ymwelodd â hi’r llynedd.
Cafodd Siân Gwenllian ei thywys o gwmpas y Ganolfan Ddosbarthu gan Chris Jones, y Rheolwr a chyfarfod rhai o’r 50 o staff oedd yn didoli llythyrau a pharseli cyn iddynt gael eu dosbarthu ar draws yr etholaeth
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter