Adam Price: Llywodraeth y DU yn torri'r rheoliadau
Mae Arweinydd Plaid Cymru Adam Price heddiw wedi ysgrifennu at Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Ursula von der Leyen, i gyflwyno cwyn ffurfiol yng ngoleuni honiadau bod Public Health England wedi cyfarwyddo prif gyflenwyr domestig CDP yn y DU na chânt werthu rhai eitemau y mae llawer o alw amdanynt i gartrefi gofal y tu allan i Loegr.
Cyfeiriodd Adam Price at adroddiadau am achosion lle cafodd archebion am gyfarpar gan berchenogion cartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban eu gwrthod.
Meddai Arweinydd Plaid Cymru Adam Price:
"Rwyf heddiw wedi cyflwyno cwyn ffurfiol i'r Comisiwn Ewropeaidd ynglŷn â chyfarwyddiadau honedig gan Public Health England i brif gyflenwyr domestig CDP yn y DU i beidio â gwerthu rhai eitemau y mae llawer o alw amdanynt i gartrefi gofal y tu allan i Loegr.
"Mae hyn wedi arwain at wrthod archebion am y cyfarpar hwn gan berchenogion cartrefi gofal yng Nghymru a'r Alban; mae hyn wedi cael llawer o sylw gan y BBC a chyfryngau eraill.
"Mae rheoliadau'r UE ynglŷn â Chyfarpar Diogelu Personol, sy'n dal i fod yn berthnasol i'r DU yn y cyfnod pontio, yn nodi'n glir “Ni chaiff Aelod Wladwriaethau atal, cyfyngu na rhwystro prosesau i roi CDP neu gydrannau CDP ar y farchnad sy'n bodloni darpariaethau'r Gyfarwyddeb hon.”
"Wrth gyfyngu ar werthu CDP i ran o'i thiriogaeth, mae Llywodraeth y DU wedi methu â rhoi eu rheoliadau eu hunain ar waith i fodloni'r Gyfarwyddeb ac ar y sail honno, rwyf wedi gofyn i Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd lansio ymchwiliad rhagarweiniol i achos posibl o dorri rheoliadau.
"Rwyf wedi cael gwybod am achosion dirifedi o weithwyr cartrefi gofal yn cael eu gadael i weithio â CDP cwbl annigonol, gan eu peryglu eu hunain a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
"Mae hwn wir yn fater o fywyd a marwolaeth ac mae'n rhaid i Lywodraethau Cymru a'r DU fynd i'r afael â'r problemau o ran cyflenwi a dosbarthu CDP ar fyrder, a gwneud hynny mewn modd nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn unrhyw genedl mewn unrhyw ffordd."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter