Cefnogaeth trawsbleidiol i fynd i'r afael ag ymddygiad 'peryglus ac anghyfrifol'.
Bydd Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams yn cyflwyno Mesur Preifat yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw i reoleiddio y defnydd o feiciau dŵr (jet skis) a’i gwneud yn drosedd eu defnyddio heb drwydded.
Byddai’r Mesur, sydd wedi derbyn cefnogaeth trawsbleidiol gan ASau sy’n cynrychioli ardaloedd arfordirol ar draws y DU, yn sefydlu system drwyddedu i yrrwyr beiciau dŵr, sydd ar hyn o bryd wedi eu heithrio o reoliadau morwrol arferol.
Byddai hefyd yn ei gwneud yn anghyfreithlon defnyddio beiciau dŵr heb y drwydded angenrheidiol, gan osod uchafswm cosb am y drosedd.
Mae'r Mesur yn dilyn pryderon cynyddol am y defnydd peryglus ac anghyfrifol o feiciau dŵr ar hyd arfordir Gwynedd, a'r diffyg pŵer gorfodi sydd ar gael i awdurdodau lleol i blismona'r sefyllfa. Nid yw'r broblem yn unigryw i Wynedd, gyda llawer o gymunedau arfordirol ledled y DU yn adrodd digwyddiadau tebyg.
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Ar hyn o bryd, mae’n bosib i unrhywun, hyd yn oed plentyn 12 oed, yrru beic dŵr. Nid oes angen trwydded ar yrrwyr beiciau dŵr - yn wahanol i fwyafrif gwledydd eraill yr UE a thu hwnt, sydd eisoes â system drwyddedu mewn lle.’
'Fel AS sy'n cynrychioli ardal sydd wedi hen arfer â defnydd tymhorol cynyddol o feiciau dwr a chychod cyflym, yn enwedig yn ystod misoedd yr haf, rwy'n teimlo bod diogelwch morwyr eraill a phobl sy'n mynd i’r traeth yn cael ei danseilio gan y diffyg deddfwriaeth bresennol.'
'Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion am gamddefnyddio beiciau dŵr ar hyd ein harfordir, heb sôn am y trasiedïau personol sydd wedi codi pan fydd damweiniau'n digwydd.'
‘Hyd yma mae llywodraethau olynol wedi methu â chymryd camau pendant i ddeddfu ar y mater hwn. Mae'n dal yn wir bod beiciau dŵr y tu allan i ddeddfwriaeth forwrol, gan atal awdurdodau lleol rhag ymateb i bryderon gydag unrhyw bwerau grymus.'
'Mae rhai awdurdodau lleol fel Gwynedd wedi dangos ewyllys wleidyddol trawsbleidiol i herio'r defnydd anghyfrifol a gwrthgymdeithasol o feiciau dŵr pan fo diogelwch personol defnyddwyr eraill o’r môr yn cael ei roi mewn perygl, ond heb ddeddfwriaeth ystyrlon, mae eu dwylo wedi'u clymu.’
'Mae deddfwriaeth gadarn mewn lle ar draws llawer o wledydd Ewropeaidd i reoleiddio'r defnydd o feiciau dŵr. Mae'n gwneud synnwyr felly bod angen deddfwriaeth i sicrhau bod trefniadau tebyg yn cael eu cyflwyno yng Nghymru a gweddill y DU.'
'Mae fy Mesur yn ceisio unioni'r anghysondeb hwn trwy ddod â system drwyddedu i mewnledled y DU fel bod angen trwydded ar yrwyr beiciau dŵr, yn debyg iawn i yrwyr beic modur, cyn cael caniatâd i’w defnyddio.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter