Ofnau am ddiogelwch y cyhoedd ar ôl i Loegr lacio cyfyngiadau teithio
Mae Plaid Cymru wedi galw am gynyddu dirwyon ar unwaith i atal pobl rhag gyrru i gyrchfannau twristiaeth poblogaidd Cymru ar ôl i Brif Weinidog y DU, Boris Johnson, gyhoeddi ei fod yn llacio'r cyfyngiadau i ganiatáu i bobl deithio i wneud ymarfer corff.
Yn Lloegr, nawr caiff pobl deithio i wneud ymarfer corff, ond yng Nghymru mae unrhyw deithiau sydd ddim yn hanfodol yn erbyn y gyfraith.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg heddiw na fyddai pobl sy'n teithio o Loegr yn cael eu "dirwyo ar unwaith" am ddod i Gymru.
Fodd bynnag, mae Arweinwyr awdurdodau lleol sydd o dan reolaeth Plaid Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Plaid Cymru ac AS Plaid Cymru a Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol Delyth Jewell i gyd wedi ymuno â'r alwad i gynyddu'r dirwyon i atal pobl rhag gyrru i gyrchfannau twristiaeth poblogaidd Cymru wrth i'r cyfyngiadau symud barhau.
Dywedodd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Plaid Cymru yng Ngogledd Cymru a Dyfed-Powys, Arfon Jones a Dafydd Llywelyn, nad oedd y dirwyon presennol yn ddigon uchel gan fod pobl yn "dal i anwybyddu" y cyfyngiadau ac yn teithio "cannoedd o filltiroedd" ar deithiau sydd ddim yn hanfodol.
Cafodd yr alwad i gynyddu'r ddirwy ei chymeradwyo gan arweinwyr cynghorau Plaid Cymru – Emlyn Dole (Sir Gaerfyrddin), Ellen ap Gwynn (Ceredigion), Dyfrig Siencyn (Gwynedd) a Llinos Medi Huws (Ynys Môn).
Fe wnaeth AS Plaid Cymru, Delyth Jewell fynegi pryderon am y dryswch sy'n cael ei achosi gan ddatganiadau anghyson gan Brif Weinidogion Cymru a'r DU, a galw am roi rhagor o bwerau i'r heddlu ac awdurdodau lleol i atal pobl rhag ceisio manteisio ar y dryswch.
Meddai Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Plaid Cymru Arfon Jones (Gogledd Cymru) a Dafydd Llywelyn (Dyfed-Powys),
"Nid yw'r ddirwy bresennol yn ddigon uchel gan fod pobl yn dal i anwybyddu'r canllawiau ac yn teithio cannoedd o filltiroedd ar deithiau sydd ddim yn hanfodol.
"Fel Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, roeddem ymysg y cyntaf i alw am fesurau cyfyngiadau teithio i ddiogelu ein cymunedau. Rydym nawr yn galw eto ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r ddirwy er mwyn gwneud mwy i atal pobl sy'n bwriadu gwneud teithiau diangen o fewn Cymru. Rydym yn galw am ddirwyon i ddechrau o £1,000 a chodi i £3,200 i droseddwyr mynych."
Meddai Delyth Jewell, Aelod o'r Senedd ar gyfer rhanbarth De Ddwyrain Cymru,
"Mae'r diffyg eglurder gan y Prif Weinidog mai dim ond yn Lloegr y mae ei newidiadau'n berthnasol wedi drysu'r mater ymhellach.
"Mae'r neges gan Gymru yn glir: Arhoswch gartref. Mae'n rhaid blaenoriaethu diogelwch pobl Cymru ac mae angen i unrhyw un sy'n meddwl am yrru i Gymru i ymweld â chyrchfan dwristiaeth boblogaidd ddeall y byddent yn eu peryglu eu hunain a phawb o'u cwmpas.
"I'r perwyl hwn ac i amddiffyn pobl rhag y feirws, mae'n rhaid i ni gefnogi ein heddluoedd drwy roi mwy o bwerau iddynt i wneud i bobl ailfeddwl ynglŷn â thorri rheolau'r cyfyngiadau symud."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter