Mewn llythyr at Weinidog Addysg Llywodraeth Cymru Kirsty Williams, mae Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Sian Gwenllian AS wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus brys i'r "digwyddiadau a arweiniodd at ddyfarnu canlyniadau arholiadau y mis yma."
Mae'r llythyr yn nodi na fydd adolygiad y Gweinidog yn "craffu'n ddigonol" i unioni'r methiannau systematig a ddigwyddodd.
Nododd Siân Gwenllian AS hefyd yn y llythyr y byddai ymchwiliad cyhoeddus yn rhoi llais i ddisgyblion ac athrawon, ac yn dangos dymuniad gan Lywodraeth Cymru i ddysgu gwersi o ffiasgo'r haf.
Yn y llythyr, meddai Gweinidog Addysg Cysgodol Plaid Cymru Siân Gwenllian AS,
"Yng ngoleuni'r digwyddiadau cysylltiedig â graddau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol, TGAU a BTec dros y bythefnos ddiwethaf, rwy'n eich annog i gynnal ymchwiliad cyhoeddus llawn i'r digwyddiadau a arweiniodd at ddyfarnu canlyniadau arholiadau y mis yma.
"Ni fydd eich adolygiad yn craffu'n ddigonol ar y methiannau systematig a arweiniodd at anghyfiawnder i lawer o ddisgyblion. Ni fydd ychwaith yn rhoi sylw digonol i sut y byddwn yn adeiladu system gadarn a theg yn y dyfodol. Mae'r ddwy elfen yn hanfodol bwysig i ailadeiladu hyder y cyhoedd.
"Nid yw'n rhy hwyr i newid cyfeiriad a byddai cyhoeddi ymchwiliad cyhoeddus, gan roi llais i ddisgyblion, athrawon a chyrff addysg, yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn trin y mater â'r difrifoldeb y mae'n ei haeddu.
"Bydd ymchwiliad cyhoeddus llawn yn gam pellach i dawelu meddyliau'r holl randdeiliaid ar adeg bryderus iawn."
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter