Mae Plaid Cymru wedi sicrhau rhyddhad ardrethi busnes i brosiectau hydro bychan a fu’n wynebu cynnydd o hyd at 900% yn eu hardrethi.
Mae hyn yn dilyn ymgyrch faith gan Blaid Cymru i sicrhau tegwch i brosiectau hydro oedd yn dioddef yn anghymesur o ail-brisio ardrethi annomestig.
Mae Plaid Cymru wedi sicrhau ymrwymiad gan y llywodraeth i wneud hyn yn eu bargen ar y gyllideb, ond nid chafodd y newid ei gadarnhau hyd nes i’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru gael ei sicrhau.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Ynni, Simon Thomas:
“Os ydym yn adeiladu cenedl werdd, yna bydd prosiectau hydro cymunedol yn rhan hanfodol o hynny. Ond yr oedd agwedd gibddall y llywodraeth Lafur yn bygwth rhoi diwedd ar ymdrechion cymunedau i adeiladu dyfodol gwell. Byddai’r arian a gynhyrchwyd gan gynlluniau hydro cymunedol wedi cael ei ail-fuddsoddi yn y gymuned leol, a bydd yn dod â budd i genedlaethau i ddod.
“Rwy’n falch fod Plaid Cymru wedi llwyddo i orfodi’r llywodraeth i gefnogi’r prosiectau hanfodol hyn. Yr ydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi newid eu meddwl, ond byddwn yn gweithio trwy’r manylion i sicrhau y byddant o fudd i gynifer ag sydd modd.”
Meddai AC Plaid Cymru dros Arfon Sian Gwenllian:
“Mae cynlluniau hydro cymunedol yn asedau cymunedol gwerthfawr, ac y maent yn haeddu cefnogaeth y llywodraeth 100%. Byddai’r cynnydd arfaethedig mewn ardrethi busnes wedi bod yn ergyd farwol i gynlluniau yn f’etholaeth i, megis Ynni Ogwen ac Ynni Anafon.
“Cred Plaid Cymru y dylai prosiectau ynni adnewyddol fod ym meddiant y gymuned ac y dylent fod o fudd i gymunedau lleol, ac yr ydw i’n falch ein bod wedi llwyddo i berswadio Llywodraeth Cymru i gefnogi’r prosiectau hyn o’r cynnydd y bwriadant ei wneud yn eu hardrethi busnes fel y gallwn amddiffyn yr egwyddor hon.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter