Mae cynrychiolwyr Plaid Cymru yn Arfon wedi bod allan yn cefnogi trigolion lleol sydd wedi’u heffeithio gan lifogydd a achoswyd gan Storm Francis, gyda’r Aelod Seneddol lleol Hywel Williams yn ymweld â chartrefi a busnesau a gafodd eu taro gan lifogydd yn Abergwyngregyn a Bethesda.
Yn ymuno â Hywel Williams ym Methesda roedd y Cynghorydd lleol Rheinallt Puw, sydd wedi bod yn helpu preswylwyr gyda'r glanhau ar ôl i Afon Ogwen orlifo a dod i mewn i eiddo cyfagos. Dywed Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, ei bod mewn cysylltiad agos â Chynghorwyr lleol a chymunedau y mae'r llifogydd wedi effeithio arnynt.
Dywedodd Siân Gwenllian AS,
‘Roeddwn yn ddigalon o glywed adroddiadau am lifogydd a effeithiodd ar rannau o Fethesda ac Abergwyngregyn dros nos. Fel pe na bai pethau’n ddigon drwg i deuluoedd a busnesau lleol, bydd y llifogydd yn ychwanegu at yr ansicrwydd.’
‘Rwy’n gwybod bod effaith llifogydd yn ddinistriol, ac i’r rhai sy’n byw gyda’r ofn cyson hwn mae’n anodd dirnad yr effaith y mae hyn yn ei gael ar eu bywydau. Maent yn cael eu gorfodi o’u cartrefi, maent yn colli eu heiddo, ac mae pethau o werth sentimental yn cael eu taflu i sgip. ’
‘Ond mae’n ei gwneud hi’n bwysicach fyth bod cymuned mor wydn yma yn Arfon yn barod i ddarparu help llaw pan fo angen.’
‘Bydd fy swyddfa yn cadw mewn cysylltiad agos â chynghorwyr lleol, cymunedau, a thrigolion lleol dros y dyddiau nesaf.’
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Roedd yn dorcalonnus gweld gyda’m llygaid fy hun y cartrefi a’r busnesau a ddifethwyd gan y llifogydd a ddaeth mor gyflym fel nad oedd llawer o gyfle i baratoi na symud o’i ffordd.’
‘Hoffwn dalu teyrnged i ymateb y gymuned a gwaith y gwasanaethau brys a staff y Cyngor a oedd allan yn oriau mân y bore yn achub preswylwyr.’
‘Dyma’r peth olaf sydd ei angen ar drigolion. Mae'n hanfodol bod pobl a busnesau lleol yr effeithir arnynt yn cael yr help sydd ei angen arnynt i godi’n ôl ar eu traed. Mae ein swyddfa yn barod i ddarparu cefnogaeth a chyngor pe bai pobl ei angen. ’
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter