Mae Siân Gwenllian, AC Plaid Cymru dros Arfon wedi mynnu bod angen cyhoeddi adroddiad yn nodi pam fod Betsi Cadwaladr wedi bod yn tangofnodi marwolaethau yn y bwrdd iechyd ers dros fis.
Mae ffigurau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd ddydd Gwener yn cynnwys 84 o farwolaethau adolygol a adroddwyd gan Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru a ddigwyddodd rhwng 20 Mawrth a 22 Ebrill.
Dywedodd Dr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru nad oedd bwrdd iechyd Betsi Cadawaladr wedi adrodd ffigurau marwolaeth coronafirws dyddiol oherwydd eu bod yn defnyddio system wahanol i weddill GIG Cymru.
Holodd Siân Gwenllian, AC Plaid Cymru ar gyfer Arfon pam fod Betsi Cadwaladr wedi bod yn defnyddio system wahanol i weddill GIG Cymru “yn y lle cyntaf” a pham fod mis wedi bod cyn i Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sylweddoli fod rhywbeth o'i le.
Dywedodd Ms Gwenllian y dylid cyhoeddi adroddiad i’r digwyddiad yn gyhoeddus “cyn gynted â phosib” a rhybuddiodd y dylid dysgu gwersi.
Dywedodd AC Arfon fod “gonestrwydd a thryloywder” yn hanfodol i gadw ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd “yn ystod cyfnod mor heriol”.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter