Hywel Williams yn amlygu effaith Covid ar wasanaethau post lleol.
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon Hywel Williams wedi galw ar y Prif Weinidog Boris Johnson i adolygu gwytnwch y Post Brenhinol, wrth i achosion o Covid-19 ymhlith staff rheng flaen achosi oedi difrifol i wasanaethau.
Cyfeiriodd Mr Williams at swyddfa ddidoli Caernarfon fel enghraifft o ble mae achos diweddar o Covid-19 ymhlith staff y Post Brenhinol wedi cael effaith sylweddol ar wytnwch gwasanaethau post yn yr ardal.
Bu problemau sylweddol efo danfoniadau a chasgliadau lleol ar draws rhannau o etholaeth Arfon yn dilyn i naw aelod o staff y swyddfa ddidoli brofi’n bositif efo Covid-19, gyda sawl un arall yn cael eu gorfodi i hunan-ynysu.
Wrth holi'r Prif Weinidog, dywedodd Hywel Williams AS:
‘Mae oedi difrifol wedi bod efo llythyrau, pecynnau a pharseli pwysig yn ardal Caernarfon oherwydd achos o Covid-19 ymhlith gweithwyr post.'
'Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn ymuno â mi i ddymuno gwellhad buan i'r gweithwyr yma.'
'Ond pa gamau y mae ei lywodraeth wedi'u cymryd yn ystod yr argyfwng iechyd i sicrhau fod y Post Brenhinol, a oedd unwaith yn esiampl flaengar o wasanaeth cyhoeddus, ond sydd bellach wedi'i breifateiddio, yn ddigon cadarn i gyflawni ei ddyletswydd i'r cyhoedd?'
Ychwanegodd Hywel Williams AS:
'Mae staff rheng flaen y gwasanaeth post wedi bod yn gweithio'n hynod o galed trwy gydol y pandemig, gan sicrhau bod danfoniadau a chasgliadau yn cael eu cynnal gyda chyn lleied o drafferth â phosib.'
'Ond mae Covid-19 yn cael effaith sylweddol ar wytnwch y gwasanaeth mewn rhannau o Arfon, gyda gweithwyr i ffwrdd yn sâl, ac eraill yn hunan-ynysu. Yn anochel, mae hyn wedi arwain at oedi enfawr efo derbyn llythyrau a pharseli.'
'Rwy'n gwybod bod gan rai o fy etholwyr bryderon y byddant yn colli allan ar eu brechiadau Covid-19, er fy mod bellach wedi cael sicrwydd bod ffyrdd amgen ar waith i gyrraedd pobl, megis dros y ffôn neu drwy weithwyr iechyd cymunedol.'
'Fodd bynnag, mae'n ddealladwy bod pobl yn bryderus, a gyda mwy o bobl yn gweithio o adref, dylai cynnal gwytnwch y gwasanaeth post fod yn flaenoriaeth i'r llywodraeth.'
'Gydag adroddiadau o broblemau tebyg ar draws rhannau eraill o'r DU, mae'n amlwg, beth bynnag fo'r mesurau wrth gefn, nad ydyn nhw'n ddigonol i gynnal gwasanaethau post, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, rhag problemau sy'n gysylltiedig â Covid.'
'Rhaid i'r llywodraeth a'r Post Brenhinol lunio cynlluniau mwy cadarn ar frys, fel nad ydym yn wynebu'r un trafferthion pe bai staff rheng flaen i ffwrdd o'r gwaith eto yn y dyfodol.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter