ASau Gwynedd yn galw am gefnogaeth wedi ei dargedu i bobl fregus.
Mae ASau Plaid Cymru Gwynedd Hywel Williams a Liz Saville Roberts yn rhybuddio bydd newidiadau sydd ar fin digwydd i fudd-daliadau etifeddol yn effeithio’n anghymesurol ar bobl sy’n byw a phroblemau iechyd meddwl yng Ngwynedd, wrth i’r Adran Gwaith a Phensiynau symud holl hawlwyr i Gredyd Cynhwysol.
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu dweud wrth bob hawliwr bod ganddyn nhw derfyn amser o dri mis i wneud cais am Gredyd Cynhwysol neu wynebu colli eu budd-dal yn gyfan gwbl, p’un a ydyn nhw wedi llwyddo i symud i Gredyd Cynhwysol ai peidio.
Mae’r ASau Plaid Cymru wedi rhybuddio y gallai pobl â phroblemau iechyd meddwl a’r rhai a allai fod yn rhy sâl i ymgysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau gael eu gadael heb unrhyw fodd o dalu eu rhent, prynu bwyd neu dalu biliau ynni. Yn ystod argyfwng costau byw, mae hyn yn peryglu incwm cyfan pobl.
Dengys ffigyrau o Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin bod 5,823 o aelwydydd yng Ngwynedd yn dal i dderbyn budd-daliadau etifeddol a chredydau treth. 2,837 yn Nwyfor Meirionnydd a 2,986 yn Arfon. Mae 41% o hawlwyr budd-daliadau yng Nghymru eto i gael eu symud i Gredyd Cynhwysol.
Dywedodd Hywel Williams AS a Liz Saville Roberts AS:
'Ar hyn o bryd mae 5,823 o bobl yng Ngwynedd yn derbyn budd-daliadau etifeddol sy'n wynebu cael eu symud i Gredyd Cynhwysol.'
'Mae llawer o'r bobl hyn yn fregus ac yn dioddef problemau iechyd meddwl a chorfforol dwys. Gall rhai fod yn rhy sâl i lenwi ffurflenni neu ddim yn deall y broses y gofynnir iddynt ei dilyn. Iddynt hwy, mae parhad cymorth ariannol yn hanfodol.'
'Bydd yr argyfwng costau byw yn ychwanegu at y pryder a'r ansicrwydd y mae llawer o hawlwyr yn ei deimlo bob dydd. Y peth olaf sydd ei angen arnynt yw bygythiadau y bydd eu budd-daliadau yn cael eu hatal ymhen tri mis gyda chymorth cyfyngedig gan y llywodraeth.'
'Mae peryglu eu hincwm trwy osod terfynau amser a disgwyl iddynt brosesu gwybodaeth gymhleth yn afresymol. Nid oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd i gofrestru hawliad tra bod llawer o hawlwyr sydd ag anghenion iechyd hirdymor angen cymorth parhaus.'
'Ni ddylai unrhyw un sy'n destun trosglwyddiad o daliadau budd-dal etifeddol i Gredyd Cynhwysol gael eu budd-dal presennol wedi'i atal nes eu bod wedi sefydlu hawliad i Gredyd Cynhwysol.'
'Mae budd-dal etifeddol fel Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn achubiaeth i'n hetholwyr mwyaf bregus, gyda nifer ohonynt a iechyd meddwl gwael iawn ac maent yn dioddef nifer o gyflyrau iechyd. Yr hyn sydd ei angen arnynt yw cymorth, nid straen pellach, ac ansicrwydd.'
'Rydym yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i gymryd cyfrifoldeb a darparu cymorth wedi'i dargedu i hawlwyr, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl, yn lle gosod terfynau amser afresymol.'
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter