Mae Siân Gwenllian, Aelod Cynulliad, wedi ymateb i’r datganiad mai Aled Roberts fydd yn olynu Meri Huws fel Comisiynydd y Gymraeg.
Meddai Sian Gwenllian, Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru dros Addysg a’r Gymraeg:
“Llongyfarchiadau i Aled Roberts ar ei benodiad yn Gomisiynydd y Gymraeg. Gydag Alun Davies ac Eluned Morgan wedi mynd â ni i’r gors ryfedda gyda’u cynlluniau ar gyfer Bil y Gymraeg, a Strategaeth heriol i greu Miliwn o Siaradwyr angen ei gweithredu, yr her i’r Comisiynydd newydd fydd sefyll i fyny i’r Llywodraeth a sefyll dros y Gymraeg.
Mae wedi dod yn amlwg mai gweithredu Mesur y Gymraeg 2011 i’r eithaf a datblygu cyfundrefn sy’n gwarantu cyfiawnder a chydraddoldeb sifig i siaradwyr Cymraeg mewn peuoedd swyddogol yw’r flaenoriaeth ddeddfwriaethol o ran cynllunio ieithyddol ar hyn o bryd – yn hytrach na cholli ffocws gyda chynlluniau dadleuol ar gyfer Bil newydd nad oes cefnogaeth iddynt. Dwi’n gobeithio’n fawr mai un o weithredoedd cyntaf Aled Roberts fel Comisiynydd fydd mynnu amserlen bendant ar gyfer gosod safonau ym maes cymdeithasau tai, trafnidiaeth, ynni, telathrebu, ar y wladwriaeth les ac ar Adrannau Whitehall.
Dymunaf yn dda i Aled Roberts yn y rôl hollbwysig hon fel pencampwr annibynnol dros y Gymraeg a’i siaradwyr.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter