Dim darpariaeth i hawlwyr PIP yng nghanolfan asesu budd-dal Bangor wrth i'r AS lleol alw am weithredu.
Mae AS Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi cyhuddo’r Adran Gwaith a Phensiynau o ddiystyru anghenion cymhleth pobl fregus wrth iddi ddod i’r amlwg na fydd gan ganolfan asesu budd-daliadau newydd yng nghanol dinas Bangor unrhyw ddarpariaeth ar gyfer hawlwyr PIP.
Mewn ymateb i lythyr gan Hywel Williams AS, cadarnhaodd y Gweinidog Gwaith a Phensiynau y Farwnes Stedman-Scott nad oes unrhyw gynlluniau i gynnal asesiadau PIP ar gyfer hawlwyr bregus yn y lleoliad newydd yng nghanol y ddinas.
Bydd y safle asesu newydd yng Nghanolfan Menai ar gyfer y rhai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol, ESA, Budd-dal Anafiadau diwydiannol a Veterans UK yn unig.
Dywedodd Hywel Williams AS,
'Mae ateb y Gweinidog yn dangos diystyrwch a difaterwch syfrdanol yr Adran Gwaith a Phensiynau tuag at anghenion hawlwyr ag anabledd difrifol yn fy etholaeth ac ar draws gogledd orllewin Cymru.'
'Mae cyd-leoli gwasanaethau budd-daliadau mewn safle hygyrch canolog ym Mangor yn gynnydd, ond mae gwneud hynny heb ddarpariaeth ar gyfer hawlwyr PIP ag anabledd difrifol sy'n dibynnu ar hygyrchedd a chysylltiadau trafnidiaeth dibynadwy yn hollol anghywir.'
'Mae’r ffaith bod llywodraeth y DU yn llaesu dwylo i gywiro'r anghyfiawnder hwn a gwahaniaethu yn erbyn pobl ag anabledd difrifol yn ddim llai na gwarth.'
'Roedd symud y ganolfan asesu PIP o'r ardal heb unrhyw rybudd yn ddigon drwg, ond mae dod â gwasanaethau budd-daliadau ynghydo dan yr un to, ond gan eithrio anghenion hawlwyr PIP, nid yn unig yn enghraifft o golli cyfle amlwg ond mae'n ymestyn ansicrwydd i'r mwyaf bregus.'
'Gan fod disgwyl i bobl anabl fyw â’r system hon, mae gwir angen cynnydd gwirioneddol o ran dod o hyd i safle addas, hygyrch ar gyfer y ganolfan.'
'Dylai unrhyw benderfyniad ar ddyfodol y ganolfan bwysig hon fod â buddiannau hawlwyr anabl wrth ei wraidd, gan gynnwys y cyfyngiadau ar eu gallu i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus i apwyntiadau.'
'Byddaf yn galw am drafodaethau pellach â llywodraeth y DU i lobïo am weithredu ar yr anghyfiawnder sylfaenol hwn. Mae'n hen bryd i'r Adran Gwaith a Phensiynau symud ar hyn fel y gall pobl fregus gael rhywfaint o sicrwydd.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter