O’r ‘Cwt Coffi’ yng ngwaelod yr ardd i’r hen faracs chwarelwyr ym mhentref bychan Nantlle ym mhen pellaf Dyffryn Nantlle, mae cwmni rhostio coffi Poblado wedi mwynhau tair blynedd o dwf aruthrol yn eu busnes a hynny mewn diwydiant cystadleuol dros ben. Mae’r rheiny sy’n caru eu coffi yn griw digon ffyslyd ar y gorau, ond mae coffi Poblado wedi dod mor boblogaidd nes bod y perchennog Steffan Huws wedi gallu cyflogi un gweithiwr arall.
Ymwelodd Siân Gwenllian AC â’r rostfa goffi i ddysgu sut ddaru’r busnes dyfu o fod yn fusnes wedi ei leoli yng ngwaelod yr ardd i fod yn gwmni gyda chleientiaid ar draws gogledd-orllewin Cymru.
“Un o’r pethau sydd wedi fy niddori i yn arbennig am Poblado yw eu hagwedd foesol tuag at masnach,” meddai Siân Gwenllian. “Mae Steffan Huws wedi treulio amser yn byw a theithio yn rhai o’r tlotaf o blith y gwledydd sy’n cynhyrchu coffi ac mae o wedi treulio amser yn magu partneriaethau cynaladwy gyda chynhyrchwyr a chyflenwyr sydd yn fanteisiol i bawb, gyda’r nod o roi’r pris gorau posib i ffermwyr am eu ffa. Agwedd Steffan yw y dylai poblogrwydd coffi ‘arbenigedd’ fod yn fodd o godi pobol allan o dlodi gan ar yr un pryd roi coffi o safon uchel â blas ardderchog i’r rhai sy’n caru coffi.”
Mae Steffan Huws yn hoff iawn o’i leoliad rhostio sydd yn brolio rhai o olygfeydd gorau’r ardal. Dydi Dyffryn Nantlle ddim yn gartref amlwg i ddiwydiant sydd yn aml yn cael ei gysylltu gyda bywyd trefol neu ddinesig, ond mae’r harddwch a’r awyrgylch hynod yn ysbrydoli tîm bach Poblado.
“Ro’n i’n edrych am y cartref iawn I Poblado pan wnaeth y busnes dyfu’n rhy fawr i’r sied yng ngwaelod fy ngardd i” meddai Steffan Huws. “Mi wnes i ymweld ag ambell uned ar stadau diwydiannol ond ro’n i’n teimlo nad oedden nhw wir yn gweddu i’n brand ni. Ces i fy rhoi mewn cysylltiad ag Antur Nantlle a dyna sut y daethom ni i’r hen farics chwarelwyr. Mae’n le hyfryd i weithio ac yn le braf i bobol ddod i ymweld â ni. Mae pethe wedi cyflymu’n o arw dros y flwyddyn ddiwethaf sydd wedi caniatáu imi gyflogi un aelod o staff. Mae Sion yn gweithio gyda fi ac yn gwneud y gwaith hyfforddiant ‘barista’ i’r caffis rydym ni’n eu cyflenwi. Yr hyn sy’n ein gwneud ni ychydig yn wahanol i gynhyrchwyr coffi eraill yw’r ffaith ein bod ni’n rhostio’n ffa ein hunain ac yn delio dim ond mewn coffi ‘arbenigedd’, sydd yn rhoi gwell blas a gwell rheolaeth i ffermwyr dros brisiau eu ffa nag sydd yn bosib gyda choffi sy’n cael ei werthu ar y farchnad agored.”
Dwi’n teimlo mai busnesau bach fel hon yw’r dyfodol â bod yn onest. Mae llawer o fusnesau bach bwyd a diod yn gwneud yn dda iawn yn yr ardal hon. Mae’n anodd iawn denu cyflogwyr mawr i ardaloedd gwledig fel hon, ond gyda’r gefnogaeth iawn gall bobol gychwyn eu busnesau bach cynaladwy eu hunain yn hytrach na dibynnu ar gwmnïau mawr yn dod i mewn.”
Llun | Steffan Huws a Sian Gwenllian AC yn y rhostfa yn Nantlle
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter