Mae AS lleol wedi galw i fynd i’r afael â physgota anghyfreithlon
Mae Aelod o’r Senedd wedi cefnogi galwadau pysgotwyr lleol i roi deddfau gwrth-botsio ar waith.
Yn ôl Cymdeithas Pysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni, mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr achosion o bysgota anghyfreithlon a photsio yn nyfroedd Cymru. Maent yn honni bod y cynnydd yn sgîl effaith gostyngiad yn nhimau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, ac yn ôl y gymdeithas dim ond 15 unigolyn sydd yn gweithio i roi’r deddfau pysgota ar waith ledled Cymru.
Yn ôl ysgrifennydd y gymdeithas, Huw Hughes, nid yw’r niferoedd hyn “yn ddigonol ar gyfer amddiffyn ein pysgodfeydd yn iawn.”
Mae Siân Gwenllian, sy'n cynrychioli etholaeth Arfon yn y Senedd, wedi cefnogi'r alwad. Mae wedi codi’r mater gyda Gweinidog Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths AS. Dywedodd:
"Mae cymdeithas bysgota leol wedi cysylltu â mi ynglŷn ag achosion honedig o botsio, a diffyg gorfodaeth deddfau pysgota.
"Maen nhw'n honni y bu gostyngiad sylweddol yn nhimau gorfodi Cyfoeth Naturiol Cymru, gan adael tîm o 15 yn unig i wneud y gwaith hwn ledled Cymru.
“Mae'r gymdeithas yn teimlo bod y niferoedd yn annigonol ar gyfer amddiffyn pysgodfeydd, ac mae sôn bod potswyr yn manteisio ar y diffyg gorfodi, sydd yn ei dro’n effeithio ar stoc y pysgod.
"Pa gamau penodol ydych chi'n eu cymryd i wella'r sefyllfa hon?"
Ymateb y Gweinidog oedd honni bod Llywodraeth Cymru yn “monitro a, lle bo angen, yn gorfodi cydymffurfiad â rheoliadau pysgodfeydd” ac, hyd at ganol mis Hydref, bod 350 o archwiliadau ar y tir wedi digwydd.
Ond mae Huw Hughes yn honni bod y ffigurau hyn yn gamarweiniol, ac mae’n nodi mai mater o “wirio trwydded” yw archwiliadau ar y tir, a bod y broblem yn ymestyn y tu hwnt i bysgota didrwydded.
Ychwanegodd Siân Gwenllian AS:
“Rwyf hefyd yn bryderus iawn i glywed gan Huw Hughes bod sianeli cyfryngau cymdeithasol yn dod yn fforymau i rannu mannau potsio da, a gwybodaeth ar sut i osgoi'r awdurdodau.
“Mae hefyd yn honni nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithredu ar dystiolaeth a anfonir atynt yn dangos pobl yn torri cyfreithiau pysgota.
“Mae hyn oll, ynghyd â honiadau o ostyngiad mewn timau gorfodi yn peri pryder, ac mae’n bosibl y bydd yn arwain at niwed i hyfywedd ein dyfroedd.”
Ychwanegodd Huw Hughes, Ysgrifennydd Cymdeithas Pysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni:
“Rydyn ni fel pysgotwyr yn ceisio bod yn help llaw wrth drosglwyddo gwybodaeth sy'n adnabod potswyr.
“Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rwyf wedi anfon dogfennau sy'n dangos eogiaid a brithyllod môr a gafodd eu dal yn anghyfreithlon.
“Rwy’n credu bod pysgota neu botsio anghyfreithlon yn rhemp yn y mwyafrif o ddyfroedd Gwynedd.”
Ychwanegodd Leslie Griffiths AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru:
“Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddyletswydd statudol i gynnal, gwella a datblygu pysgodfeydd eog, brithyll, llyswennod, llysywen bendoll, gwyniaid a physgodfeydd dŵr croyw yng Nghymru.
“Mae fy swyddogion wedi codi pryderon eich etholwr gyda CNC.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter