Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Arfon Hywel Williams wedi datgan ei gefnogaeth i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymgyrchu yn erbyn toriadau sylweddol i hawliau pensiynau darlithwyr.
O dan newidiadau cenedlaethol i gynllun pensiwn yr USS byddai darlithydd cyffredin yn colli oddeutu 20-40% o’u hincwm ar ôl ymddeol (tua £9,000 y flwyddyn) gan arwain at bryderon y gallai hyn gael effaith negyddol ar forâl staff a’r gallu i ddal gafael ar staff ynghyd a’r effaith ar fyfyrwyr.
Mae Hywel Williams AS, a arferai fod ar staff y Brifysgol hefyd yn aelod o’r Grŵp Aml Bleidiol ar Fyfyrwyr a Phrifysgolion, sydd eisioes wedi mynegi pryder ynghylch y toriadau.
Mae’r Aelod Seneddol lleol rwan yn mynegi pryder dwys ynghylch effaith y toriadau ar staff unigol gan rybuddio y bydd Bangor yn wynebu ergyd anghymesurol yn sgil y toriadau o’i gymharu â phrifysgolion megis Rhydychen a Chaergrawnt, a fydd, yn ôl pob son, yn osgoi’r fath doriadau.
Mae Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi cyhoeddi un deg pedwar diwrnod o weithredu diwydiannol cenedlaethol ym mis Chwefror a Mawrth. Mae’r cyntaf o’r rhain yn cychwyn yr wythnos nesaf.
Dywedodd Hywel Williams AS,
‘Yr hyn sy’n fy mhoeni i fwyaf yw’r ergyd y bydd staff unigol yn cael eu gorfodi i gymryd ac effaith hyn ar forâl staff a’r gallu i ddal gafael ar staff heb son am yr effaith ar fyfyrwyr.’
‘Bydd y toriadau yma hefyd yn gwahaniaethau ar sail oedran. Bydd y rheiny sydd yn agos at oedran ymddeol yn debygol o ddioddef llai na darlithwyr iau, ar gychwyn eu gyrfa a fydd yn wynebu ansicrwydd yn eu hymddeoliad.’‘Mae'r effaith posib ar recriwtio a chadw staff ym Mangor a Phrifysgolion eraill yr effeithir arnynt yn enfawr. Mae hyn yn cael ei gymhlethu gan effeithiau Brexit ar staff o’r UE, ac mae llawer ohonynt yn pryderu am y dyfodol.’
'Mae yna arwyddion eisoes bod prifysgolion yn ei chael hi'n anodd recriwtio staff safon ardderchog i’r fath safonau yr ydym wedi dod yn gyfarwydd â hwy.'
'Ni fydd y toriadau hyn yn gwneud llawer i leddfu'r pryderon hynny a byddant yn cyfrannu at yr ansicrwydd sydd eisioes yn bodoli ynglyn â dyfodol addysg uwch yn dilyn pleidlais Brexit.'
'Mae prifysgolion yn gwbl annibynnol o’r llywodraeth. Ond mae'r mater hwn mor ddifrifol fy mod yn credu bod rhaid i'r llywodraeth ganolog gamu i mewn, i ddarparu arweiniad polisi ac, os oes angen, yr adnoddau sydd eu hangen i ddatrys yr argyfwng. '
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter