Mae AC Plaid Cymru Arfon yn mynegi ei phryder am gynlluniau’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru i gau ei swyddfa yng Nghaernafon yn ddiweddarach eleni (2018). Mae ffigyrau gan Blaid Cymru yn dangos bod Caernarfon wedi colli 42.8% o’i swyddi Llywodraeth Cymru ers 2010.
Mae’r Llywodraeth Lafur bellach yn bwriadu gwerthu’r adeilad yn Penrallt gan symud staff i swyddfeydd rhent ger Doc Fictoria sydd yn codi pryderon am gyflogaeth hir-dymor Lywodraeth Cymru yn y dref.
Mae’r cwymp yn y nifer o swyddi Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn fwy na’r cyfartaledd cenedlaethol o 18.29% sydd yn dangos hyd a lled esgeulustra’r Llywodraeth Lafur. Yn 2010 roedd cyfanswm o 133 o bobl yn cael eu cyflogi gan y llywodraeth yng Nghaernarfon. Bellach, Penrallt yw’r unig swyddfa Llywodraeth Cymru yn y dref gyda dim ond 76 o weithwyr yno.
Mae Plaid Cymru yn galw ar y weinyddiaeth Lafur i beidio a defnyddio’r adleoli yma fel ffordd o dorri rhagor swyddi.
Dywedodd Sian Gwenllian AC:
“Mae symud swyddi llywodraeth i adeiladau rhent yn canu clychau yn lleol, yn enwedig a ninnau eisoes wedi colli llawer mwy o swyddi o’i gymharu a threfi eraill.
“Mae gan Blaid Cymru nifer o atebion cadarnhaol er mwyn gwella’r cydbwysedd drwy Gymru. Fel rhan o Agenda Gymru Gyfan mi fyddai’r blaid yn deddfu er mwyn sicrhau bod gwariant cyhoeddus wedi ei rannu’n deg a chytbwys drwy’r wlad i gyd. Byddai’r blaid yn edrych ar greu rhagor o sefydliadau cenedlaethol wedi eu lleoli yn y gogledd gan annog a chynnig cymhelliant i’r sectorau preifat a chyhoeddus ddosbarthu eu swyddi’n fwy gwastad.”
Dywedodd Hywel Williams, AS:
“Mae’n hollbwysig nad yw’r swyddi’n cael eu colli yng Nghaernarfon yn enwedig o gofio bod y dref yn honno wrth galon ardal sydd a nifer uchel o siaradwyr Cymraeg - ac o gofio hefyd uchelgais y Llywodraeth Lafur i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Dylai’r pwyslais fod ar gryfhau yn hytrach na gwanhau economi ardal ble mae’r Gymraeg yn ffynnu ac yn cael ei defnyddio yn y gweithle. Dylai’r Llywodraeth fod yn gweithio tuag at sicrhau swyddi o ansawdd da yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith. Pa fath o neges sy’n cael ei roi i dref Caernarfon pan fo unig adeilad y Llywodraeth ar werth?”
Aeth Sian Gwenllian AC ymlaen i ddweud:
“Roedd gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad cychwynnol i wasgaru ei weithlu ar draws y wlad gan dargedu gogledd Cymru, y cymoedd a chanolbarth Cymru. Sefodd Plaid Cymru yn gadarn tu ôl i’r strategaeth yma gan ein bod yn mynnu bod rhaid i fuddiannau datganoli gael eu rhannu’n deg ymhlith y gwahanol ardaloedd o fewn Cymru. Ond yng Nghaernarfon rydym wedi gweld 57 swydd yn cael eu symud o’r ardal dros saith mlynedd. Tra bod nifer y swyddi gweision sifil wedi mynd lawr oherwydd llymder, mae’r cwymp lawer mwy yng Nghaernarfon nag yn genedlaethol a mewn ardaloedd eraill yn y gogledd.
“Mae’r Llywodraeth Lafur yn rhoi torri costau cyn anghenion cymunedol. Rwyf yn galw am sicrhad nad yw’r adleoli i adeilad rhent yn esgus dros gymryd rhagor o swyddi allan o’r dref.
“Mae Plaid Cymru yn credu mewn rhoi gwasanaeth gydradd i bob rhan o Gymru – gogledd a de, trefol a gwledig. Credwn y dylai sefydliadau newydd gael eu codi yn y gogledd ac y dylai’r sectorau preifat a cyhoeddus fel ei gilydd gael cymhelliad i symud swyddi yma. Mae hyn yn wrthgyferbyniad llwyr i record y Llywodraeth Lafur bresennol a’i gabinet, sydd wedi torri nol yn hegar ar eu presenoldeb yng ngogledd Cymru.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter