Bydd prosiectau ynni hydro yn Arfon yn parhau i elwa o ryddhad ardrethi yn sgil pwysau parhaus gan Blaid Cymru yn y Cynulliad
Bu AS Plaid Cymru Arfon, Siân Gwenllian yn ymgyrchu am sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y byddai cynlluniau hydro megis Ynni Ogwen, Ynni Anafon ac Ynni Padarn/Peris yn parhau i dderbyn rhyddhad treth llawn o 100% ar gyfer 2019-20.
Dywedodd Siân Gwenllian AC,
‘Oherwydd pwysau cyson gan Blaid Cymru, mae’n bleser cadarnhau bydd rhyddhad trethi yn parhau ar gyfer cynlluniau hydro cymunedol o fewn fy etholaeth am flwyddyn arall.’
‘Oni bai hyn, mi fyddai prosiectau ynni hydro cymunedol yn wynebu cynnydd sylweddol yn eu trethi, dros y blynyddoedd diwethaf mae rhai wedi cynyddu gymaint â 900%.’
‘Crêd Plaid Cymru y dylai prosiectau ynni adnewyddol fel cynlluniau hydro, fod yn rhan annatod o gynhyrchiant ynni ac o fudd i’r gymuned leol.’
‘Rydym yn ffodus yn Arfon fod cymaint o gynlluniau hydro sefydlog mewn bodolaeth ynghyd a rhai newydd ar gychwyn sydd wedi eu hariannu gan y gymuned, a’u datblygu trwy ddefnyddio arbenigedd busnesau lleol ar gyfer cael ynni gwyrdd i’n hardal.’
‘Rwy’n falch ein bod wedi llwyddo i berswadio Llywodraeth Llafur Cymru i ymestyn rhyddhad treth i’r prosiectau yma, rhywbeth sydd wedi bod yn sefydlog ym mholisi’r Blaid.’
‘Os ydym am adeiladu cenedl werdd yna mae’n rhaid i gynlluniau hydro cymunedol fod yn rhan hanfodol ohonni ac mae prosiectau hydro cymunedol angen sicrwydd hir dymor.’
Mae Cyd Ynni yn fenter gydweithredol o 5 grwp ynni cymunedol o ardal Gwynedd. Mae ganddynt 3 system hydro dan berchnogaeth eu cymunedau yn barod, gyda cynlluniau ar gyfer rhai newydd dros y 2 flynedd nesaf.
Dywedodd Gareth Harrison, Rheolwr Datblygu Cyd Ynni,
‘Rydym yn falch o glywed fod Llywodraeth Cymru am gynnig gostyngiad am y flwyddyn ariannol nesaf i lleihau costau ardrethi busnes.’
‘Mae hyn yn sicrhau y gall ein grwpiau ynni cymunedol ail-fuddsoddi eu helw o fewn eu cymunedau yn ystod 2019-20.’
‘Y cam nesaf yw i'r Lywodraeth rhoi sicrwydd hir dymor i'r sector yma, er mwyn sicrhau eu bod yn gallu buddsoddi yn eu cymunedau am flynyddoedd.’
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter