Mae Aelod o’r Senedd Arfon wedi dweud y dylai trigolion fanteisio ar gynnig parcio am ddim Cyngor Gwynedd i gefnogi busnesau lleol.
Cyhoeddwyd yn ddiweddar y bydd Cyngor Gwynedd, fel rhan o ymdrechion i gefnogi busnesau lleol dros yr ŵyl, yn darparu parcio am ddim yn eu meysydd parcio bob dydd o 11am rhwng 9 a 26 Rhagfyr.
Mae Siân Gwenllian wedi annog trigolion i wneud defnydd o’r cynnig i hybu’r economi leol a gwario eu harian mewn siopau annibynnol y gaeaf hwn.
“Dwi’n falch iawn o weld Cabinet Cyngor Gwynedd yn gwerthfawrogi pwysigrwydd yr adeg yma o’r flwyddyn i fusnesau lleol.
“Fel cyn Bencampwr Busnesau Bach Gwynedd, rydw i’n ymwybodol iawn o fanteision economaidd, amgylcheddol a chymunedol prynu’n lleol.
“Mae’r cynnydd dramatig mewn siopa ar-lein yn golygu bod strydoedd mawr yn llawn cadwyni masnachol, byd eang yn perthyn i’r gorffennol.
“Ond does dim rhaid i hynny fod yn newyddion drwg.
“Mae busnesau annibynnol yn rhoi dôs go dda o bersonoliaeth ac unigolyddiaeth i stryd fawr. Maen nhw’n medru adlewyrchu cymeriad ardal.
“Heb sôn am y budd economaidd. Drwy wario mewn busnesau annibynnol yn ein cymunedau, mae’r arian hwnnw’n mynd yn ôl i’r economi leol. Mae fel caseg eira.
“Mae perchnogion busnesau lleol yn ail-fuddsoddi elw yn y gadwyn gyflenwi leol. Maen nhw’n cyflogi pobl leol, ac yn fwy tebygol o dalu cyflog cyfartalog uwch na chadwyni masnachol. Maen nhw’n noddi sefydliadau ac elusennau lleol hefyd.
“A gobeithio y bydd parcio am ddim gan y Cyngor yn anogaeth bellach i siopa’n lleol.”
Mae Cyngor Gwynedd yn cyfeirio trigolion at gyfeiriadur ar-lein sy’n hyrwyddo busnesau lleol sy’n cynnig “dewis personol.” Gellir dod o hyd i'r safle yma.
Ychwanegodd Siân:
“Mae’r ddegawd ddiwethaf wedi cynnig her ddigynsail i strydoedd mawr, gan gynnwys parciau siopa ar gyrion trefi, Covid, a’r argyfwng costau byw.
“Ond mae cynlluniau gwerth £20 miliwn i ddatblygu Canolfan Iechyd a Lles newydd ar Stryd Fawr Bangor yn newyddion da, ac yn cynnig cyfle i ail-ddychmygu dyfodol ein strydoedd mawr.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter