Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos arweinyddiaeth ac ymrwymo i gronfa ariannol wrth gefn i brifysgolion Cymru, wedi i adroddiad ynglŷn â chyflwr addysg uwch yng Nghymru ddangos bod y sector yn wynebu heriau mawr
Dangosodd yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru* fod prifysgolion Cymru yn wynebu'r tebygolrwydd o golli rhwng £84 – 140 miliwn** yn y flwyddyn academaidd nesaf o golledion mewn ffioedd yn unig – heb gyfrif colledion eraill y gellid eu disgwyl oherwydd gostyngiad yn nifer y myfyrwyr a ragwelir.
Roedd yr adroddiad yn nodi bod astudiaethau wedi dangos y gallai nifer y myfyrwyr rhyngwladol leihau 50% a nifer y myfyrwyr o'r DU leihau 15% gan ddechrau ym mis Medi, ac y byddai hynny'n rhoi straen ariannol sylweddol ar y sector cyfan. Yn benodol, gallai hyn fod yn ergyd arbennig o galed i brifysgolion yng Nghymru sydd â llif arian is neu sydd eisoes yn ceisio ad-dalu dyledion uwch. Roedd yr adroddiad yn amcangyfrif, gan fod chwech o'r wyth sefydliad AU yng Nghymru oedd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad (nid oedd y Brifysgol Agored wedi'i chynnwys) eisoes yn hanner isaf sefydliadau'r DU o ran mewnlifiad arian, y gallai unrhyw brifysgol heb gronfa sylweddol wrth gefn wynebu anawsterau i reoli unrhyw ergyd ariannol drom.
Roedd yr adroddiad yn dangos bod pump o brifysgolion Cymru mewn sefyllfa arbennig o fregus: Abertawe, Aberystwyth, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Bangor a Chaerdydd.
Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu arweinyddiaeth allweddol nawr – cyn dechrau'r flwyddyn academaidd nesaf – er mwyn i'r sector AU allu bod yn hyderus bod cynlluniau wrth gefn yn eu lle i atal unrhyw heriau gweithredol neu ariannol difrifol yn y sector yn y flwyddyn nesaf.
Mae'r blaid hefyd yn galw am sefydlu cronfa wrth gefn i sicrhau sefydlogrwydd a hyder.
Meddai Bethan Sayed AS, gweinidog addysg ôl-16 yr wrthblaid Plaid Cymru,
"Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn sy'n rhoi eglurder go iawn i ni am yr heriau i'r dyfodol, er ei fod yn annymunol i'w ddarllen. Mae'n glir bod y sector cyfan wedi cael ei daro'n galed gan y pandemig byd-eang, a'i fod yn wynebu bygythiad clir yn y flwyddyn nesaf. Ni all Llywodraeth Llafur Cymru a'r gweinidog addysg fod ag unrhyw amheuaeth pa mor ddifrifol yw'r her sy'n eu hwynebu. Mae hwn yn argyfwng"
"Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio ers amser maith bod addysg uwch yng Nghymru mewn sefyllfa ariannol fregus. Byddai unrhyw sefydliad yn cael trafferthion yn ystod yr argyfwng hwn, ond yng Nghymru rydym yn arbennig o agored i niwed. Ac eto, nid yw Llywodraeth Cymru yn darparu'r arweinyddiaeth na'r diogelwch sydd eu hangen ar y sector. Gwpl o wythnosau yn ôl, hyd yn oed, dywedodd y gweinidog addysg wrth CCAUC y dylent ddisgwyl toriad yn eu cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, er eu bod yn gwybod bod y sector yn wynebu amser caled.
"Os yw Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu unrhyw gyllid ariannol i brifysgolion Cymru, rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu cronfa wrth gefn i helpu i liniaru rhywfaint o effaith y pandemig hwn ar y sector AU – fel y maent wedi'i wneud mewn meysydd eraill."
Meddai Helen Mary Jones, gweinidog economi yr wrthblaid Plaid Cymru,
"O Fangor i Gaerdydd, mae ein prifysgolion yn angor allweddol i'n heconomi. Mae prifysgolion Cymru yn darparu 17,300 o swyddi llawn-amser, mae 50,000 o swyddi eraill yn dibynnu arnynt ac maent yn darparu bron i 5% o werth ychwanegol gros Cymru a thraean o'n gwariant ar ymchwil a datblygu. Heb becyn cymorth o ddifrif wedi'i deilwra, bydd ein prifysgolion i gyd yn wynebu bygythiad ariannol sylweddol. Byddai costau ariannol canlyniad o'r fath yn enfawr ac yn rhywbeth na fyddai neb yn dymuno ei wynebu.
"Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyflwyno pecyn cymorth yn ddiweddar*** i helpu i liniaru colledion ymchwil eu sector prifysgolion gwerth £75 miliwn, felly gallai fod yn opsiwn i Lywodraeth Cymru ddefnyddio eu pwerau tebyg yma, neu wneud cais am fwy o bwerau benthyca.
"Rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn wynebu llawer o flaenoriaethau ar hyn o bryd. Ond nid oes llawer o fygythiadau mwy na hwn, ac felly rydym yn credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru gamu i'r bwlch os na wnaiff Llywodraeth y DU wneud hynny."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter