ACau Plaid Cymru yn amlinellu gweledigaeth gyffrous ar gyfer datblygiad economaidd a chynllunio ieithyddol yn y gorllewin
Wrth i Gymru gychwyn ar gyfnod newydd o drefn llywodraeth ranbarthol, mi fydd Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, Adam Price a Siân Gwenllian, yn datgelu eu gweledigaeth i drawsffurfio datblygiad economaidd a chynllunio ieithyddol yng ngorllewin Cymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon.
Cyn i Lywodraeth Cymru weithredu map newydd ar gyfer llywodraeth leol ranbarthol y flwyddyn nesaf, mi fydd cynrychiolwyr Plaid Cymru yn cyflwyno syniadau ar gyfer creu rhanbarth Gorllewin Cymru gydag awdurdodau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd a Môn yn ffurfio'r conglfeini.
Mi fydd Adam Price a Siân Gwenllian yn dweud bod gan y pedair sir orllewinol nifer o nodweddion cyffredin a fydd yn rhoi pwrpas i awdurdod rhanbarthol newydd:
- Canran uchel o siaradwyr Cymraeg
- Mewnlifiad pobl hyn, all-lifiad pobl ifanc
- Gwledig, dibyniaeth ar amaeth, bwyd a thwristiaeth
- Trefi marchnad a threfi prifysgol
- Canran uchel o swyddi yn y sector cyhoeddus
- Cyflogau isaf ym Mhrydain, ac ymhlith yr isaf yn Ewrop
"Mi fydd map rhanbarthol newydd yn llunio dyfodol datblygiad economaidd, trafnidiaeth a'r cyflenwad o wasanaethau cyhoeddus am flynyddoedd." dywedodd Adam Price AC wrth ychwanegu ei fod yn "hanfodol i greu'r adeiladwaith a wnaiff ffyniant a bywiogrwydd gorllewin Cymru yn ganolbwynt, nid ar gyrion rhanbarthau dwyrain-gorllewin traddodiadol."
Mi fydd AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn defnyddio ei gyfraniad yn yr Eisteddfod i gylchredeg y syniad i'r awdurdod gael y pwerau i greu 'toll twristiaeth' gyda £1 fesul ymwelydd y noswaith yn cael ei ail-fuddsoddi yn yr iaith leol a datblygiad economaidd.
Dros amser gallai'r awdurdod rhanbarthol cymryd y camau canlynol:

- Cynnig Bargen Twf (Growth Deal) i'r Gorllewin i Lywodraeth y DU
- Dechrau paratoi ar gyfer cynigion ar y cyd i Gronfa Ffyniant Newydd Llywodraeth y DU
- Creu Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer y Gorllewin Cymraeg
- Creu Strategaethau sector-benodol e.e. i amaeth-fwyd
- Creu Academi Twristiaeth gyda Gwesty gweithiol yn dysgu lletygarwch drwy gyfrwng y Gymraeg
- Creu Banc Cymunedol i'r Rhanbarth
- Creu Cynllun Iaith Cyfansawdd ar draws y Rhanbarth ac ar draws y sector cyhoeddus o fewn y Rhanbarth
- Creu cynllun Uno De na Gogledd, drwy lobio a chyd-ariannu gyda Llywodraeth Cymru (drwy fondiau) ail-agor llinellau rheilffordd Aber-Caerfyrddin a Phwllheli-Caernarfon, a buddsoddi yn yr A487 a'i droi y goridor ffibr-optig ar gyfer cysylltedd gig-a-byte (cymharer llwyddiant yr hen Bwyllgor Sefydlog ar gyfer Blaenau'r Cymoedd)
- Datganoli sylweddol o bwerau o'r Cynulliad – fel yn achos datganoli i Faeri etholedig Lloegr
- Model o awdurdod cyfun a Maeri etholedig fel posibiliadau i'w drafod o ran llywodraethiant
- Creu asiantaeth neu gorfforaeth ddatblygu rhanbarthol i fod yn gyfrifol am waith generadu e.e. Prosiect Ardal Y Fenai
Yn siarad cyn ei araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol dywedodd Adam Price AC:
"Gellid dadlau bod yr heriau a wynebir yng ngorllewin Cymru- yr economi, tai, cysylltedd a chynllunio- yn berthnasol i Gymru gyfan. Ond o safbwynt economaidd, gwleidyddol ac ieithyddol mae'r gorllewin wedi cyrraedd adeg dyngedfennol.
"Mae yna batrwm clir o ddirywiad economaidd a dirywiad ieithyddol yn ardaloedd y Gorllewin. Mae'r cysylltiad rhwng y ddau beth i'w weld yn glir yn lefelau all-boblogi pobl ifainc. Mae yna hefyd tystiolaeth o ddiffyg buddsoddiad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru yn ardaloedd y De a'r Gogledd-orllewin.
"Mae yna gydnabyddiaeth hyd yn oed gan Aelodau Llafur nad oes ganolbwynt ar anghenion unigryw Cymru wledig yn strategaeth economaidd y Llywodraeth ar hyn o bryd, ac mae yna duedd i or-bwysleisio'r cysylltiadau Gorllewin-Dwyreiniol a thraws-ffiniol gyda Lloegr yn ein strategaeth economaidd genedlaethol gan israddio cysylltiadau'r De a Gogledd. Dyma ein cyfle i greu'r amodau i fynd i'r afael â'r materion yma."
Dywedodd Sian Gwenllian, llefarydd y Blaid ar y Gymraeg a llywodraeth leol:
"Ar ôl i Lywodraeth Cymru amlinellu ymrwymiad yn ddiweddar yn ei chynigion Cymraeg 2050 i gysylltu ymdrechion i gryfhau'r iaith Gymraeg â thyfiant economaidd a buddsoddiad llywodraeth, nid ond dymunol yw awdurdod ar gyfer y Gymru orllewinol - ardaloedd a fydd efallai yn chwarae'r swyddogaeth fwyaf i gyrraedd y nod o 1 miliwn o siaradwyr - byddwn yn dadlau ei fod yn angenrheidiol.
"Nawr yw'r amser i ni fod yn fentrus drwy gyflawni dyfodol llwyddiannus i'r gorllewin. Yn ein cyfraniad i'r Eisteddfod yr wythnos hon, mi fydd Adam Price a minnau yn amlinellu sut y gallwn ddod ag egni newydd i strategaeth economaidd yng Nghymru, gan gysylltu ein hiaith a threftadaeth genedlaethol â gweledigaeth economaidd."

Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter