Plaid Cymru yn galw am liniaduron a mynediad ddim i'r rhyngrwyd i blant sydd yn awr yn dysgu o gartref am i'r ysgolion gau oherwydd Coronafirws.
Mae Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru, Sian Gwenllian, AC, wedi dweud y dylai pob plentyn o oedran ysgol sydd heb liniadur gael un am ddim er mwyn dysgu gartref, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi y bydd ysgolion yn cau o ddyddiau Gwener ymlaen.
Ychwanegodd Ms Gwenllian y dylid darparu'r rhyngrwyd am ddim hefyd i bob aelwyd sydd â phlant o oedran ysgol sydd "heb fynediad ar hyn o bryd" at y rhyngrwyd.
Wrth groesawu'r cyhoeddiad ddoe y bydda'i ysgolion yn cau am ddarpariaeth statudol, dywedodd y Gweinidog Addysg cysgodol fod angen "mwy o eglurder a chanllawiau cliriach" am y math o gefnogaeth y byddai ar rieni a gwarcheidwaid angen ac y byddent yn ei ddisgwyl.
Gan ddweud yn gallai ysgolion fod ar gau ar gyfer dysgu am gyfnod amhenodol, dywedodd Ms Gwenllian y dylai pob plentyn allu mynd at "adnoddau dysgu o bell " gan gynnwys gliniadur a mynediad i'r rhyngrwyd am ddim.
Er bod Ms Gwenllian yn cydnabod na fydd hyn, efallai, yn "flaenoriaeth yn syth", dywedodd y gallai Llywodraeth Cymru weithredu ar y cynllun hwn yn awr.
Meddai Gweinidog Addysg cysgodol Plaid Cymru , Sian Gwenllian, AC:
"Dylai plant o oedran ysgol nad oes ganddynt liniadur unigol gael un am ddim i ddysgu o gartref.
"Dylai'r rhyngrwyd hefyd gael ei ddarparu am ddim i bob aelwyd â phlant o oedran ysgol sydd hebddo ar hyn o bryd.
"Yr ydym yn croesawu cau ysgolion am ddarpariaeth statudol, ond mae ar nominated angen o hyd fwy o eglurder a chanllawiau cliriach gan y Gweinidog Addysg ynghylch y math o gefnogaeth y gall rhieni a gwarcheidwaid ddisgwyl.
"Wyddom ni ddim am ba hyd yr erys yr ysgolion ar gau. Efallai y bydd angen dysgu plant yn electronig neu o bell am amser amhenodol. I'r perwyl hwnnw, dylai pob plentyn allu cyrchu adnoddau dysgu o bell gan gynnwys gliniadur unigol a rhyngrwyd am ddim.
"Er nad yw hyn, efallai, yn flaenoriaeth yn syth, gydag ysgolion yn hynod brysur yn gwneud trefniadau ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn y sector cyhoeddus, ond mae'n fater y gallai Llywodraeth Cymru ddewis ei ystyried a dechrau gweithredu arno.
"Ni ddylai'r pandemig Coronafirws olygu fod addysg plant yn dioddef. Ni ddylai'r un plentyn gael ei adael ar ôl."
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter