Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae effaith yr argyfwng costau byw ar gymunedau gwledig yn ardal Arfon yn arbennig o niweidiol.
Ar lawr y Senedd cyfeiriodd Sian Gwenllian AS at adroddiad newydd Sefydliad Bevan, Tlodi yn Arfon yn yr 21ain ganrif: Datrysiadau cyfoes ar gyfer hen her.
Yn ôl Sefydliad Bevan:
“Mae tlodi yn broblem ym mhob cymuned ledled Cymru.
“Roedd un unigolyn o bob pump (21 y cant) yn byw mewn tlodi yng Nghymru rhwng 2019-20 a 2021-22.
“Er hyn, ychydig o ddata sydd ar gael ar dlodi heb fod ar lefel genedlaethol, sy’n golygu bod modd anghofio effaith ffactorau lleol pwysig ar dlodi.”
Mae’r adroddiad, a gomisiynwyd gan Hywel Williams, AS Plaid Cymru dros Arfon yn canfod bod dau brif ffactor yn gyfrifol am lefel uwch o dlodi yn y rhanbarth. Un o’r rheini yw bod cyflogaeth lleol yn cael ei nodweddu gan gyflog isel a gwaith ansicr.
Yn ail, mae trigolion Arfon yn wynebu premiwm costau byw oherwydd costau tai, ynni a theithio uchel, materion sy'n cael eu gwaethygu gan natur wledig yr ardal.
Ac yn ddiweddar holodd cynrychiolydd yr etholaeth yn Sened Cymru y Gweinidog perthnasol ynghylch beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â’r premiwm costau byw sy’n wynebu trigolion cymunedau gwledig Arfon.
Yn ôl Siân Gwenllian:
“Yr hyn y mae’r adroddiad hwn yn ei ddatgelu yw bod sefyllfa sy’n anodd iawn i lawer beth bynnag yn effeithio ar y rhai sy’n byw mewn lleoliadau gwledig yn ogystal â threfol.
“Mae’r ffactorau sy’n arwain at dlodi gwledig yn amrywio o isadeiledd trafnidiaeth gyhoeddus sâl i gost ynni uwch na’r arfer oherwydd cyflwr gwael y stoc tai.
“Mae’r rhain yn heriau lle gall y Llywodraeth fod yn rhagweithiol wrth fynd i’r afael â nhw.
“Dyna pam y gofynnais i Jane Hutt AS fel y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a yw polisïau ei Llywodraeth yn rhoi ystyriaeth ddigonol i’r premiwm gwledig costau byw hwn?”
Yn ei hymateb croesawodd Jane Hutt AS yr adroddiad ac addawodd y byddai’n parhau i dargedu cefnogaeth ei Llywodraeth at y rhai sydd ei angen fwyaf. Dywedodd Hutt fod angen i Lywodraeth Cymru “ddysgu o’r adroddiad hwn, nid yn unig er mwyn mynd i’r afael â chostau byw yn Arfon, ond ar draws Cymru hefyd.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter