Mae'r AS lleol wedi dweud y dylid gofyn i fyfyrwyr sy'n astudio ym Mangor aros adref, a dylai'r Llywodraeth ddigolledu prifysgolion.
Mae Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli Arfon yn y Senedd ac sy’n Weinidog Addysg Cysgodol dros Blaid Cymru wedi galw am atal myfyrwyr rhag dychwelyd i Fangor, yn ogystal â galw am ddigolledu’r myfyrwyr a’r landlordiaid am gostau llety.
Daw sylwadau’r AS yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru cyn y Nadolig y bydd myfyrwyr prifysgol yn dychwelyd yn ysbeidiol ar ôl y Nadolig.
Dywedodd Siân Gwenllian;
“Mae'r cynlluniau cyfredol i ddychwelyd myfyrwyr i brifysgolion ledled y DU yn anghynaladwy.
“Rydyn ni yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus. Bu'n rhaid cau ysgolion, sy'n adlewyrchu difrifoldeb y sefyllfa.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddweud wrth fyfyrwyr am aros lle maen nhw, ac mae angen i’r rhan fwyaf o ddysgu’r Brifysgol symud ar-lein am nawr.
“Dim ond y rhai sy’n astudio cyrsiau lle mae dysgu ymarferol yn gwbl hanfodol, fel nyrsio, meddygaeth a gwyddoniaeth filfeddygol, ddylai ddychwelyd i astudio wyneb yn wyneb.
“Mae symudiad mor eang o bobl ledled y wlad yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus yn anghyfrifol.”
Law yn llaw â phle’r AS lleol mae Plaid Cymru wedi galw ar y Llywodraeth i sicrhau bod prifysgolion yn cael eu digolledu’n ariannol am golledion.
“Er mwyn ymateb i’r mesurau digynsail hyn, mae angen darparu cymorth ariannol i fyfyrwyr Prifysgol Bangor.
“Ar ogystal â hynny, mae angen digolledu myfyrwyr a landlordiaid am gostau llety.
“Mae'n hynod annheg iddynt fod yn talu am lety na allant ei ddefnyddio.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar frys.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter