1. Beth di’ch oed chi? 59
2. Beth yw eich statws priodasol ac a oes gennych chi blant? Os oes, faint? Gweddw. Pedwar o blant.
3. Beth yw eich gwaith llawn amser? Cynghorydd Sir / Gohebydd llawrydd.
4. Ble rydych yn byw? Yn Y Felinheli (rhwng Bangor a Chaernarfon).
5. Beth wnaeth eich ysbrydoli i fynd mewn i wleidyddiaeth? Dyhead i weld fy ngwlad yn cyrraedd ei llawn photensial.
6. Pam ydych chi / fyddech chi’n Aelod Cynulliad da? Mi fyddwn yn llais effeithiol i bobl fy etholaeth, a byddwn yn defnyddio fy ynni i helpu i wneud Cymru yn genedl decach a hyderus.
7. Beth ydi eich cefndir addysgol a gwaith? Mynychu Ysgol Gyfun Friars, Bangor, prifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Hyfforddi fel gohebydd. Wedi gweithio ym maes newyddion, materion cyfoes, darlledu, cyfathrebu, cyhoeddi a marchnata.
8. Beth ydi’r sialensau mwyaf sy’n wynebu Cymru? Creu economi gref, mynd i’r afael a than-gyflawni addysgol a thlodi, datblygu’r GIG, lleihau biwrocratiaeth, sicrhau cyfran deg o’r gacen i Ogledd Cymru.
9. Pam ydych chi eisiau cynrychioli’r ardal rydych yn ymgeisio drosti? Fel mod i’n medru bod yn llais newydd cryf i’r ardal dw i’n hannu ohoni, sefyll i fyny dros Ogledd Cymru gan hefyd adeiladu ar lwyddiannau yr Aelod Cynulliad presennol, Alun Ffred Jones, sy’n ymddeol.
10. Sut dylai gwleidyddion Cymru gynnau diddordeb pobl yn y Cynulliad? Cyflwyno negeseuon clir a chyson; annog datblygiad gwasg Gymreig rymus; gwneud llawn ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol i greu deialog gydag etholwyr.
11. Pwy ydi eich arwyr? Y Suffragettes. .
12. Pa gerddoriaeth fyddech chi’n fynd efo chi ar ynys bellennig a beth fyddai eich un moethusrwydd? CD ddiweddara Owain Gwynedd. Potel o win o winllan Pant Du, Dyffryn Nantlle.
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter