Siân Gwenllian AS

Mae Siân Gwenllian yn cynrychioli etholaeth Arfon yn Senedd Cymru. Cafodd ei hethol am y tro cyntaf yn 2016, a chafodd ei hail-ethol yn 2021 gyda chanran uwch o’r bleidlais nag unrhyw ymgeisydd arall drwy Gymru, gan ddyblu ei mwyafrif gyda 63.3% o’r bleidlais. Mae’n falch o fod wedi ymgyrchu’n llwyddiannus am ysgol feddygol newydd i ogledd Cymru ym Mangor yn ei hetholaeth.

 

Ar hyn o bryd mae’n dal portffolio Tai a Chynllunio Plaid Cymru (2024-) yn dilyn ei rôl fel yr Aelod Arweiniol Dynodedig yn y Cytundeb Cydweithio (2021-2024) rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Lafur Cymru. Bu’n gweithio ar 46 o feysydd polisi gan sicrhau newidiadau mawr megis prydau ysgol am ddim i bob disgybl cynradd, ehangu gofal plant am ddim, mesurau radical i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn ogystal â chyfrannu at greu Senedd fwy effeithiol a chynrychioliadol.

Yn ystod pedwerydd a phumed tymor y Senedd mae hi wedi dal portffolios polisi amrywiol i Blaid Cymru gan gynnwys Addysg/Llywodraeth Leol/Cynllunio/Y Gymraeg/Diwylliant a bu’n Gomisiynydd Senedd y Blaid, Trefnydd, Prif Chwip a Dirprwy Arweinydd yn y Senedd. Hi yw Cyfarwyddwr Polisi Plaid Cymru ar Bwyllgor Gwaith Cenedlaethol y blaid (2024-).


Fe’i magwyd ym mhentref Y Felinheli lle mae’n dal i fyw a derbyniodd ei haddysg uwchradd ym Mangor. Mynychodd y brifysgol yn Aberystwyth a Chaerdydd, a bu’n gweithio fel newyddiadurwr gyda’r BBC, HTV, Golwg yn ogystal â chyflwyno a chynhyrchu rhaglenni dogfen ar ei liwt ei hun. Bu hefyd yn swyddog y wasg i Gyngor Gwynedd (1997-2004.)

 

Yn 2008 etholwyd Siân yn gynghorydd sir dros y Felinheli, gan wasanaethu am 8 mlynedd cyn cael ei hethol i’r Senedd. Bu’n dal y portffolio cyllid (2010-12) cyn dod yn Ddirprwy Arweinydd y Cyngor ac yn Aelod Cabinet dros Addysg, Plant a Phobl Ifanc. Hi hefyd oedd Pencampwr Busnesau Bach y sir.

 

Mae diddordeb gwleidyddol Siân yn ymestyn dros sawl degawd. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth bu'n Ddirprwy Lywydd Urdd y Myfyrwyr. Mae hi hefyd wedi bod yn llywodraethwr ysgol gynradd ac uwchradd, yn gadeirydd ar ei chyngor cymuned lleol ac yn wirfoddolwr gyda llawer o fudiadau lleol. Mae hi wedi bod yn ymgyrchydd angerddol dros gydraddoldeb merched a’r Gymraeg ers dros 45 mlynedd.

 

Roedd gan Siân bedwar o blant gyda’i gŵr, Dafydd ond yn 1999, pan oedd eu mab ieuengaf ond yn dair oed, bu farw Dafydd o ganser. Magodd Siân y pedwar plentyn fel rhiant sengl.


Byddwch y cyntaf i wneud sylw

Edrychwch yn eich e-bost am ddolen i fywiogi eich cyfrif.

Mae hyn yn dechrau gyda chi

Ganddyn nhw mae'r arian, ond gennym ni mae'r bobl. Os yw pawb sy'n ymweld â'r wefan hon yn ymuno â'n mudiad yna does dim na allwn ei gyflawni.

Ymgyrchoedd