Yn ddiweddar cafodd Siân Gwenllian, Aelod o’r Senedd dros Arfon, gyfle i godi pwysigrwydd yr angen am gefnogaeth i BID Bangor a Hwb Caernarfon gyda Ken Skates, Gweinidog yr Economi. Mae’r ddwy fenter yn gweithio i hybu busnesau a siopau canol tref o fewn etholaeth Arfon.
Mewn cyfarfod rhithiol o’r Senedd, dywedodd Siân Gwenllian AS fod “Ardaloedd Gwella Busnes yn allweddol i’r gwaith o adfer canolfannau siopa nifer o drefi a dinasoedd ar draws Cymru, ac fe fydd eu gwaith yn hynod werthfawr i ddelio â’r problemau enfawr sy’n wynebu ein Stryd Fawr yn sgil yr argyfwng presennol.”
Ychwanegodd fod “£6m o bunnau’n cael ei ddyrannu i BIDs yn Lloegr, fel cymorth tuag at 3 mis o daliadau lefi,” ac fe holodd a oedd arian cyfatebol yn dod i Gymru.
Sefydlwyd BID Bangor yn 2015, ac mae wedi datblygu strategaeth i wella'r amgylchedd busnes a gwella twf economaidd yn y ddinas. Mae menter gyfatebol yn bod yng Nghaernarfon, sef Hwb Caernarfon.
Gofynodd yr AS Plaid Cymru dros Arfon wrth Weinidog Economi Llywodraeth Cymru, “a oes gan eich Llywodraeth chi fwriad i helpu busnesau yn y 16 o gynlluniau BID sydd, hyd yma, yn parhau i dalu lefi i mewn i’r cynllun?”
Wrth ymateb, dywedodd Ken Skates fod “penderfyniad cadarnhaol wedi ei wneud,” ac y bydd yn “rhoi manylion pellach yn y man.”
Dywedodd Siân Gwenllian ei bod yn falch o allu sicrhau y bydd cefnogaeth yn cael ei rhoi i fusnesau, ond ei bod yn pryderu fod “gormod o fusnesau’n syrthio rhwng dwy stôl.”
Yn dilyn cyfraniad Siân Gwenllian yn y Senedd, mae Liz Saville Roberts, Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionnydd ac Helen Mary Jones, Aelod o’r Senedd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau “fod cefnogaeth wedi’i thargedu at fusnesau yng Ngwynedd nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cymorth ariannol sydd ar gael ar hyn o bryd.”
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter