Ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach (Rhagfyr 3) mae Aelod Cynulliad Arfon, Sian Gwenllian yn annog pobl i siopa’n lleol y Nadolig hwn, er mwyn rhoi hwb i fusnesau bach ar y stryd fawr.
“Mae busnesau bach a chanolig yn hanfodol i’n economi ni yng Nghymru” meddai Siân Gwenllian.
“Mae’n nhw’n cadw arian i droi yn lleol, maen nhw’n fwy tebygol o ddefnyddio gwasanaethau lleol eraill ac yn debygol iawn o gyflogi’n lleol hefyd.
Dyma asgwrn cefn ein economi wledig ni. Rydw i’n gresynu’n fawr fod y system ardrethi busnes presennol yn rhoi baich anghymesur ar fusnesau bach sydd ag eiddo yng Nghymru, o'i gymharu â gweddill y DU.”
Bu Siân Gwenllian yn ymweld â busnes bach yn Llanberis ger Caernarfon i godi proffil siopau bach lleol.Mae caffi cerameg Tan y Ddraig ar stryd fawr Llanberis yn cynnig i’w cwsmeriaid beintio eu crochenwaith eu hunain, boed yn blatiau neu yn addurniadau amrywiol.
Mae’r siop yn cynnig y gwasanaeth i bartïon plant, partïon plu neu i grwpiau o bobol o unrhyw oedran a gallu sydd yn mwynhau bod yn greadigol ac am gael anrheg wreiddiol i fynd adref efo nhw.
“Roedd hi’n ddifyr iawn cael sgwrs â Juliet Bennett, perchennog Tan y Ddraig,” meddai Siân Gwenllian.
“Mae hi’n grochenydd sydd yn creu’r cynnyrch ei hun yng nghefn y siop, a chaiff pobol fynd yno i addurno’r platiau yn ôl eu dymuniad, fel rhywbeth iddyn nhw eu hunain neu fel anrheg i rywun arall.
Roedd awyrgylch braf iawn yno, ac mae’r busnes yn gaffaeliad mawr i stryd fawr Llanberis. Mae’n le ardderchog i fynd a’r plant y Nadolig yma i wneud ychydig o waith crefft dymhorol.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter