Dywed AC Plaid Cymru Arfon fod y rheol 'Saesneg yn unig' yn dangos anwybodaeth o'r radd flaenaf.
Mae AC Plaid Cymru Arfon ac Ysgrifennydd Cysgodol dros yr iaith Gymraeg, Sian Gwenllian, wedi annog Sports Direct i gael gwared ar yr hyn mae'n ddisgrifio fel polisi iaith "sy'n gwahaniaethu a sy'n sarhaus."
Roedd Sian Gwenllian AC yn siarad ar ol adroddiadau fod staff Sports Direct yn ei siop ym Mangor wedi derbyn llythyr yn amlinellu polisi 'Saesneg yn unig' y cwmni gan gyfarwyddo staff i beidio siarad unrhyw iaith arall yn y siop.
Mae AC Plaid Cymru Arfon wedi mynnu cael ymddiheuriad ffurfiol gan Sports Direct a chael gwared o'r polisi sydd yn "dangos anwybodaeth o'r radd flaenaf " o natur cymdeithasol a diwylliannol Bangor a'r ardal.
Dywedodd Sian Gwenllian AC:
"Mae'r llythyr mae staff siop Sports Direct store ym Mangor wedi ei dderbyn yn datgelu polisi iaith sy'n sarhaus.
"Mewn ardal fel Bangor lle mae nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, mae'n debygol iawn y byddai polisi o'r math yma yn gwadu hawl aelodau staff i sgwrsio yn eu hiaith ei hunain.
"Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o weithredoedd dilornus gan Sports Direct - cwmni sydd eisioes wedi magu enw drwg gan sgandalau ynglyn a chyflogau isel a gwahaniaethu ar sail rhyw.
"Mae Sports Direct wedi ceisio amddiffyn eu safbwynt- ac wedi methu. Dydy hyn ddim digon da. Mae angen i'r cwmni gyhoeddi ymddiheuriad ffurfiol i'w staff a'i gwsmeriaid, llawer fydd yn gresynu at y digwyddiad yma.
"Mae'r ffaith fod Sports Direct yn ceisio cyflwyno polisi o'r math mewn ardal aml-ieithog fel Bangor yn datgelu anwybodaeth dwfn y cwmni o'r ardal a'i wead cymdeithasol a diwylliannol.
"Byddaf yn cyflwyno cwyn ffurfiol i berchennog Sports Direct a byddwn yn annog unrhyw un sy'n pryderu am degech a chydraddoldeb yn y gweithle i wneud hynny hefyd."
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter