Mae gwleidydd lleol wedi ymateb i benderfyniad UNESCO i ddynodi ardaloedd ôl-chwarelyddol Gwynedd yn Safle Treftadaeth y Byd
Gwnaed y cyhoeddiad heddiw bod UNESCO wedi dynodi ardaloedd llechi Gwynedd yn Safle Treftadaeth y Byd.
Mae Siân Gwenllian AS, sy’n cynrychioli rhannau helaeth o ardaloedd ôl-chwarelyddol Gwynedd fel rhan o etholaeth Arfon yn honni bod “teimlad o falchder ymhlith pobl leol” wrth ymateb i gyhoeddiad UNESCO.
Mae’r Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, sydd hefyd yn llefarydd Plaid Cymru dros yr iaith Gymraeg wedi ymateb i’r cyhoeddiad.
“Gwn y bydd pobl leol, llawer ohonyn nhw fel finnau’n ddisgynyddion i deuluoedd a oedd yn dibynnu ar ddiwydiant y chwareli, yn teimlo balchder am y cyhoeddiad hwn.
“Mae’n briodol bod yr ardal yn derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol, gan fod hanes yr ardal o bwysigrwydd rhyngwladol.
“Rydyn ni’n gwybod yn iawn fod chwareli llechi Arfon ar un adeg yn ganolbwynt diwydiannol rhyngwladol.
“Roedd llechi Gwynedd yn cael eu cludo ledled y byd.
“Ychydig iawn o’r cyfoeth hwnnw a welwyd gan gymunedau lleol Gwynedd, a byddaf yn meddwl am y cenedlaethau hynny heddiw.
“Wrth i ni fyfyrio ar hanes cyfoethog yr ardal, rydym yn meddwl am y chwarelwyr, fel fy hen daid, ond rydym ni’n meddwl hefyd am eu teuluoedd.
“Y merched cryf na fyddai twf y diwydiant chwarelyddol wedi ddigwyd oni bai am eu cyfraniad. Ein “neiniau arwrol” yng ngeiriau’r bardd Gwyn Thomas.”
Bydd yr ardal yn ymuno â Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill Cymru; sef Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Llangollen, a Cestyll y Brenin Edward yng Nghaernarfon, Biwmares, Harlech a Chonwy.
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter