Mae AC Arfon, Siân Gwenllian yn datgan ei chefnogaeth i gais Caernarfon i gael cynnal Eisteddfod ddi-ffiniau heb dâl mynediad yn y dref yn 2021.
Meddai Siân Gwenllian: “Byddai cynnal yr Eisteddfod yng Nghaernarfon yn rhoi cyfle i bobol o bob man drochi eu hunain yn y diwylliant a’r iaith am wythnos gyfan a mwynhau’r holl elfennau mae’r ŵyl yn eu cynnig.
“Yn ddiweddar cynhaliodd Cyngor Tref Caernarfon gyfarfod cyhoeddus ynghylch y posibilrwydd o wahodd yr Eisteddfod i Gaernarfon yn 2021. Yn benodol, gweledigaeth y Cyngor Tref yw cynnal Eisteddfod led-debyg i’r un a fu yng Nghaerdydd eleni – hynny yw, eisteddfod “agored, ddi-ffiniau a chynhwysol”, i’w lleoli’n bennaf ar strydoedd y dref heb dâl mynediad cyffredinol. Mae’r dref eisoes wedi dangos ei gallu i gynnal digwyddiadau mawr o’r fath yn sgil yr Ŵyl Fwyd hynod lwyddiannus sydd wedi’i threfnu yno ers rhai blynyddoedd bellach. Mae’r Cyngor Tref hefyd wrthi’n gwneud gwaith sylweddol i fapio lleoliadau posibl ac mae wedi dechrau gwneud trefniadau ymarferol ar gyfer cynnal Eisteddfod stryd arfaethedig yn 2021.
“Credaf y gallai cynnal Eisteddfod agored yng Nghaernarfon fod o fudd mawr nid yn unig i’r Gymraeg yng Ngwynedd ond hefyd i sefyllfa’r iaith yng Nghymru benbaladr. Byddai gan Eisteddfod o’r fath rôl amlwg yn strategaeth y llywodraeth i greu miliwn o siaradwyr gan gyflwyno’r Gymraeg fel iaith fyrlymus a byw yn un o gadarnleoedd y Gymraeg. Caernarfon yw Prifddinas y Gymraeg. Gyda 80%+ o’r trigolion yn siarad Cymraeg, dyma iaith fyw y stryd, y siop, yr ysgol a’r dafarn a byddai dod a’r Eisteddfod i’r dref unigryw hon yn dangos i weddill Cymru fod y Gymraeg yn ffynnu yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Ychwanegodd Hywel Williams AS: “Mi fyddai dod ag Eisteddfod ddi-ffiniau i’r dre unigryw hon yn denu pobl newydd at yr iaith, yn creu profiadau newydd i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg o’r ardal hon ac o rannau eraill o Gymru sydd ddim yn cael y cyfle i glywed a gweld y Gymraeg yn fyw fel iaith gymdeithasol gwbl naturiol. Mae’n gyfle unigryw i bobl gael blas ar y Gymraeg fel iaith gymunedol ble mae pobol yn byw eu bywydau drwy gyfrwng yr iaith heb gwestiynu hynny.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter