Sian Gwenllian yn rhybuddio fod diffyg uchelgais y llywodraeth yn rhwystro cynnydd
Mae strategaeth iaith Llywodraeth Cymru yn ymgais i guddio cyfnod o ddiffyg cynnydd yn ôl Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg, Siân Gwenllian. Dywed Siân Gwenllian fod strategaeth newydd y llywodraeth yn gwanhau targedau oedd eisoes yn bodoli. Dywed hefyd nad yw'r targedau newydd yn ddigon uchelgeisiol ac nad oes digon o gerrig milltir tymor byr os yw’r Llywodraeth wirioneddol eisiau cyrraedd ei nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Cyfeiriodd Siân Gwenllian at rai o dargedau gwan y llywodraeth, gan gynnwys y targed o sefydlu 40 grŵp meithrin newydd erbyn 2021, pan fod y Mudiad Meithrin yn dweud bod hi’n bosib agor 120 grŵp newydd yn yr amser hynny. Cyfeiriodd hefyd at y targed o gynyddu’r nifer o blant ysgol gynradd sydd yn derbyn addysg cyfrwng Gymraeg i 30% erbyn 2031 gan ddweud bod hyn yn gwanhau hen darged llywodraeth Cymru’n Un o gyrraedd y nod erbyn 2020.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg, Siân Gwenllian:
“Mae’n amlwg wrth grafu dan yr wyneb mai ymgais i guddio diffyg cynnydd y llywodraeth ar gyrraedd targedau blaenorol yw’r strategaeth iaith newydd. Mae’r llywodraeth yn ceisio cuddio’r ffaith nad yw hi wedi llwyddo i gyrraedd ei thargedau wrth osod rhai newydd, sydd yn llai uchelgeisiol. Er ein bod yn croesawu rhai agweddau o’r strategaeth newydd, mae record y llywodraeth o fethu targedau yn amlwg ac rydym yn amau y bydd y llywodraeth yn gostwng y targedau ymhellach pan na fydd yn cyrraedd y nod.
“Mae ymchwil gan Gymdeithas yr Iaith wedi amcangyfrif y bydd y targedau yn y maes addysg ond yn creu 110,000 o siaradwyr Cymraeg newydd erbyn 2050, o’i gymharu â’r 400,000 sydd eu hangen. Mae’r Llywodraeth yn honni y bydd addysg yn elfen ganolog o'r strategaeth, felly mae’n rhaid codi’r cwestiwn - o ble mae’r 400,000 arall yn dod?
“Mae’r bobl sydd yn gweithio yn y maes yn dweud wrthym fod hi’n gwbl bosib i ni fod yn fwy uchelgeisiol na hyn. Mae’r Mudiad Meithrin wedi dweud y byddai’n bosib agor tair gwaith cymaint o feithrinfeydd o gymharu a'r hyn mae'r llywodraeth yn anelu ato – pam cyfyngu ar hyn?
“Rydw i’n gobeithio y byddwn yn cael ein plesio pan fydd y gweinidog yn cyhoeddi ei bapur gwyn wythnos nesa. Mae cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn gwbl bosib, os yw’r Llywodraeth yn barod i ddangos yr ewyllys gwleidyddol a’r arweinyddiaeth sydd ei hangen i wireddu.
“Mae Plaid Cymru eisoes wedi amlinellu ein strategaeth ni i gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg sydd yn cynnwys camau cadarnhaol sydd angen eu cymryd yn syth i wneud cynnydd gweladwy, yn ogystal â newidiadau tymor hir fyddai’n gosod seiliau cadarn ar gyfer y dyfodol.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter