Roedd yr achlysur yn gyfle i ddathlu elusennau sydd wedi bod yn “achubiaeth” i bobol y dre
Ddydd Sul Hydref 3, cynhaliwyd Sul y Maer yng Nghaernarfon i ddathlu gwaith elusennau lleol a grwpiau gwirfoddol yn ystod pandemig Covid-19.
Mae’r Cyng. Maria Sarnacki yn cynrychioli ward Cadnant ar Gyngor Tref Caernarfon, ac fe’i penodwyd yn faer yn gynharach eleni.
Daeth ei thad o Wlad Pwyl a bu’n garcharor rhyfel yn Belsen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Daeth draw i Brydain, ac ymgartrefodd yn Rhydychen yn wreiddiol. Oherwydd gofynion gwaith, symudodd i ardal Caernarfon, cyn cwrdd â mam Maria, Charlotte. Mae Maria'n fam i Sarah Louise, y gyfansoddwraig a’r gantores.
Cynhaliodd ddathliad bach yn Adeilad yr Institiwt yng Nghaernarfon i glywed am ymdrechion elusennau lleol a sefydlwyd yn y dref gan wirfoddolwyr yn wyneb yr heriau a achoswyd gan Covid-19.
Dechreuodd y cyfan gyda Cofis Curo Corona, grŵp a sefydlodd rwydwaith o wirfoddolwyr i gefnogi'r rhai a orfodwyd gan amgylchiadau i aros yn eu tai ar ddechrau'r pandemig.
Rhannwyd y dref yn bedair ward, a chydlynwyd ymdrechion i ddarparu cefnogaeth i bobl y dref gan wirfoddolwyr, cynghorwyr tref, a chynghorwyr sir. Roedd yr help a ddarparwyd yn cynnwys siopa, casglu presgripsiynau, a mynd â chŵn am dro.
Wedi hynny daeth Porthi Pawb, menter ‘bwyd i bawb’ yn darparu prydau maethlon i oddeutu 60 o bobl. O’r fenter honno eginodd Porthi Plantos, prosiect yn darparu bwyd i blant yng Nghaernarfon.
Yn ddiweddar agorwyd siop gymunedol ar Stryd Llyn o’r enw O Law i Law, sy’n darparu dillad a theganau plant am bris rhesymol. Mae hefyd yn fan casglu a dosbarthu ar gyfer y cynllun Rhannu Bwyd. Mae bwyd dros ben o archfarchnadoedd yn dod i'r siop, yn barod i'w ddosbarthu i bobl leol sydd ei angen.
Sefydlwyd y siop ar ôl i Gyngor Tref Caernarfon sicrhau grant gan Gronfa Economi Gylchol Economi Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru 2020-2021 i greu canolfan gymunedol i atgyweirio, adnewyddu ac ailgylchu nwyddau yng nghanol tref Caernarfon.
Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd y Cyngh. Sarnacki;
“Ar ôl blwyddyn gwbl anghyffredin, ro’n i’n awyddus i drefnu Sul y Maer oedd yn cydnabod y cyfnod digynsail rydan ni’n byw ynddo fo.
“Wnes i wahodd pobl na fyddai fel arfer yn cael eu gwahodd i'r math yma o ddigwyddiad, er mwyn dathlu eu gwaith mewn blwyddyn hynod heriol.
“Daeth y bobl yma at ei gilydd, a gweithio’n ddiflino, heb i neb ofyn iddyn nhw wneud hynny, gan sicrhau bod gan bobl Caernarfon rwydwaith o gymorth yn ystod Covid-19.
“Roedd yn anrhydedd diolch iddyn nhw yn ffurfiol.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter