Mae Plaid Cymru Etholaeth Arfon, Hywel Williams Aelod Seneddol a Siân Gwenllian Aelod Cynulliad am benodi:
Trefnydd / Swyddog Cyswllt Cymunedol (llawn amser)
Cyflog: rhwng £21,000 a £23,000
Swydd ddisgrifiad a manylion sut i wneud cais isod.
Teitl y swydd: Trefnydd Etholaeth Arfon a Swyddog Cyswllt Cymunedol
Prif leoliad: Caernarfon a Bangor
Atebol i: Cadeirydd Pwyllgor Etholaeth Arfon, Sian Gwenllian AC a Hywel Williams AS.
Cyflog: £21,000 - £23,000 y flwyddyn (llawn amser)
Caiff y swydd ei rhannu rhwng gwaith Trefnydd Etholaeth (3 diwrnod) a gwaith Swyddog Cyswllt Cymunedol i Siân Gwenllïan AC a Hywel Williams AS (2 ddiwrnod)
Swyddog Cyswllt Cymunedol (2 ddiwrnod)
Mae cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:
- Sicrhau bod yr Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol yn cael gwahoddiadau rheolaidd i gyfarfod a sgwrsio ag aelodau o grwpiau/cymdeithasau
- Cynorthwyo gyda'r gwaith o baratoi a threfnu ymgyrchoedd penodol
- Ymchwilio i faterion a godwyd mewn gohebiaeth etholaethol a dilyn achosion o’r fath, gan sicrhau eu bod yn cael eu datrys mewn pryd
- Mynd i gyfarfodydd a/neu ddigwyddiadau gyda’r Aelod Cynulliad a’r Aelod Seneddol
- Dyletswyddau gweinyddol cyffredinol yn ôl y gofyn
Trefnydd Etholaeth Arfon (3 diwrnod)
Mae Plaid Cymru Arfon yn awyddus i recriwtio unigolyn brwdfrydig a threfnus iawn i gydlynu gwaith ymgyrchu’r blaid yn yr etholaeth. Bydd yr ymgeisydd yn gallu arwain, ysgogi a threfnu ystod eang o wirfoddolwyr lleol ac ymgyrchwyr; cysylltu â grwpiau lleol a sefydliadau; ac mi fydd yn gallu cyfathrebu'n effeithiol ac yn gryno ar lafar ac yn ysgrifenedig. Yn ogystal mae angen dealltwriaeth o Blaid Cymru a’i pholisïau ynghyd a gwybodaeth o dechnegau ymgyrchu cyfoes.
Mae cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:
- Arwain a chydlynu ymgyrchoedd etholiadol yn Arfon ar lefel Cynulliad, Seneddol, Ewrop, Cyngor Sir a Cymuned/Tref.
- Hyrwyddo achos Plaid Cymru yn yr etholaeth, gan fynychu cyfarfodydd misol y Pwyllgor Etholaeth a darparu adroddiadau fel sy'n briodol.
- Cynorthwyo i ddatblygu canghennau, sefydlu canghennau newydd, atgyfodi rhai eraill ac ail strwythuro canghennau pe bai angen.
- Sicrhau bod canghennau yn casglu taliadau aelodaeth bob blwyddyn a bod y rhestrau yn gyfredol.
- Trefnu gweithgarwch ymgyrchu ac adnabod etholwyr (dros y ffôn a drws i ddrws) a bod yn gyfrifol am gofnodi’r canlyniadau ar fas data cyfrifiadurol.
- Rhedeg ymgyrchoedd lleol ac ar draws yr etholaeth
- Bod yn gyfrifol am sicrhau cofrestru pleidleiswyr a phleidleisiau drwy'r post
- Gweithredu cynllun cyfathrebu digidol ar gyfer etholaethau ac ymgyrchoedd drwy’r cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys Facebook, trydar a gwefan
- Cynorthwyo canghennau i drefnu digwyddiadau a gweithgareddau codi arian lleol
- Sicrhau cyfathrebu effeithiol gydag aelodau a chefnogwyr
- Ysgrifennydd Pwyllgor Etholaeth - cadw cofnodion, delio a gohebiaeth a threfnu’r cyfarfodydd.
- Bod yn gyfrifol am y ddwy swyddfa etholaeth, gan gynnwys trefnu unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen.
- Cyfrifol am rai agweddau o weinyddiaeth ariannol yr etholaeth drwy gynorthwyo’r Trysorydd yn ôl yr angen.
Sgiliau sydd eu hangen:
- Y gallu i weithio ar eich liwt eich hun, o fewn tîm ac yn rhagweithiol
- Profiad mewn defnyddio TG, yn enwedig rhaglenni Microsoft Office yn ogystal â'r gallu i ddysgu defnyddio technoleg newydd a chyfryngau cymdeithasol Sgiliau cyfathrebu da yn llafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau trefnu cryf
- Dealltwriaeth dda o beth mae'n ei olygu i weithio fel rhan o dîm mewn amgylchedd gwleidyddol
- Y gallu i weithio gyda gwirfoddolwyr a sefydliadau allanol
- Mae’r gallu i siarad ac ysgrifennu yn gywir yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol
- Trwydded yrru a mynediad i gerbyd
- Parodrwydd i ddysgu sut i redeg ymgyrchoedd etholiadol yn effeithiol
Profiad sydd ei angen:
- Profiad perthnasol o weithio o dan bwysau ac i derfynau amser tynn
- Profiad o fod yn effeithiol wrth reoli amser
Gwybodaeth Ychwanegol
Disgwylir i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio tu allan i oriau swyddfa arferol gan gynnwys gyda’r nosau a phenwythnosau, yn enwedig ar gyfnodau o ymgyrchu dwys megis cyfnod etholiad.
Ceisiadau drwy ffurflen gais ar gael gan [email protected], 01286 672076
Dyddiad cau: Dydd Iau, 22 Awst am hanner dydd. Cyfweliadau dydd Mawrth, 27 Awst 2019.
Mae’r gallu i gyfathrebu yn llafar ac ysgrifenedig yn y Gymraeg yn hanfodol
Ymholiadau a manylion pellach:
Richard Thomas; [email protected]
01286 672076
(This is an advertisement for a Full Time Organiser / Community Liaison Officer to work for Plaid Cymru Arfon Constituency, Hywel Williams MP and Siân Gwenllian AM. Complete fluency in oral and written Welsh is essential).
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter