Mae Siân Gwenllian yn galw am ddefnyddio asesiadau athrawon.
Dywedodd Gweinidog Cysgodol Addysg Plaid Cymru Siân Gwenllian AS:
“Mi ddylid codi graddau’r disgyblion Lefel A ac AS oedd wedi cael graddau is nag asesiadau’r athrawon ddoe. Dyma’r unig ffordd deg o symud ymlaen gan fod y system graddio ddefnyddiwyd yn colli pob hygrededd.
“Dylai’r Gweinidog Addysg gyhoeddi heddiw mai’r asesiadau athrawon fydd yn cael eu defnyddio i ddyfarnu graddau TGAU sydd i’w cyhoeddi wythnos nesaf.
“Bydd hyn oll yn golygu fod canlyniadau eleni allan o sync efo blynyddoedd a fu ond mae hon yn flwyddyn eithriadol a rhaid bod yn deg a thrugarog tuag at ein pobl ifanc wrth i ffydd a hyder yn y system ddiflannu.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter