Mae angen gweithredu i atal tagfeydd ger Pont Britannia yn y dyfodol, yn ôl Aelod o'r Senedd lleol.
Diolch i Imogen Longman am y lluniau
Mae Siân Gwenllian AS (Arfon) wedi codi pryderon yn dilyn digwyddiad ar Bont Britannia ddydd Iau 12 Rhagfyr, pan gafodd y bont ei chau ar ôl i gerbyd uchel daro'r tŵr. Achosodd y digwyddiad dagfeydd difrifol ar gyrion Bangor, gan gymryd sawl awr i'w clirio.
Mae Siân Gwenllian bellach yn annog Llywodraeth Cymru a Heddlu Gogledd Cymru i ystyried cynigion i osgoi sefyllfa debyg yn y dyfodol, ar ôl i bobl leol fod yn sownd yn eu ceir am ddwy neu dair awr ger y bont. Mae'r AS wedi codi pryderon yn benodol gan etholwyr sy'n gweithio ym Mharc Menai.
Yn ôl Siân:
“Mae'r cannoedd sy'n cael eu cyflogi ym Mharc Menai yn aml yn cael eu heffeithio pan fo un o'r ddwy bont sy'n croesi'r Fenai yn cael eu cau, gan mai'r unig ffordd i mewn ac allan o'r parc yw ar gylchfan Pont Britannia.
“Roedd amseru'r digwyddiad hwn yn arbennig o anffodus, gan iddo ddigwydd ar y cyfnod prysuraf o draffig yn gadael Parc Menai, tuag at ddiwedd y diwrnod gwaith.
“Roedd tagfeydd hir efo nifer o weithwyr yn cymryd dwy neu dair awr i adael y parc. Roedd o’n destun cryn anhawster i'r rhai oedd angen mynd adref oherwydd cyfrifoldebau gofal ac yn y blaen. Roedd llawer yn byw yng Ngwynedd, heb fod angen croesi'r bont, ond doedd yna ddim modd gadael y parc oherwydd tagfeydd.
“Pe bai’r llongau wedi bod yn hwylio o Gaergybi i Ddulyn yr wythnos ddiwethaf, byddai’r sefyllfa’n waeth byth, gan y byddai lefel y traffig wedi bod yn sylweddol uwch. Mewn achosion tebyg yn y gorffennol lle mae'r bont wedi cael ei chau, mae'r lorïau wedi mynd i Barc Menai i barcio nes i'r bont ailagor. Mae hyn wedi achosi perygl mawr o ran mynediad i'r parc ar gyfer gwasanaethau brys.”
Mae Siân Gwenllian wedi trafod y sefyllfa gyda phobl leol dros y dyddiau diwethaf, ac mae’r AS yn credu bod modd rhoi trefniadau ar waith i osgoi sefyllfa debyg yn y dyfodol.
“Yn gyntaf, mae angen i Heddlu Gogledd Cymru gael gwell rheolaeth dros draffig ar y gylchfan er mwyn hwyluso cerbydau i adael y parc mewn modd amserol. Dwi wedi ysgrifennu atyn nhw i leisio fy mhryderon.
“Mae hefyd angen gwell rheolaeth o’r cerbydau mawr sy’n croesi Pont Britannia, a dwi wedi nodi hynny’n glir i’r Heddlu hefyd.
“Hefyd, pan fydd rhaid cau’r bont, byddai agor mynedfa arall drwy dir ym Mharc Menai neu ar stad y Faenol yn caniatáu i gerbydau nad oes angen iddyn nhw groesi’r bont adael y parc, heb ychwanegu at y tagfeydd sy’n arwain at y gylchfan.
“Dwi wedi ysgrifennu at Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru, fel perchnogion y parc a’r rhai sydd â chyfrifoldeb dros ffyrdd a chefnffyrdd yng Nghymru.
“Dwi’n mawr obeithio y gellir gweithredu’r argymhellion hyn a bod cynllun brys cynhwysfawr yn cael ei gytuno’n fuan yn y flwyddyn newydd. Diolch i’r holl etholwyr sydd wedi cysylltu â mi yr wythnos hon.”
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter