Fel llefarydd y Blaid ar Dai a Chynllunio, mae Siân Gwenllian AS yn gweithio ar gyfres o bapurau sy’n nodi cynigion tai Plaid Cymru cyn etholiad y Senedd yn 2026. Mae’r gwaith yn canolbwyntio ar yr hawl i gartref, yr hawl i fyw adra, cynyddu’r cyflenwad o dai cymdeithasol, a chreu cartrefi o safon fydd yn arwain at filiau ynni llai.
Cartref i bawb: Yr Hawl i Dai Digonol, Rheoli Rhenti a Fforddiadwyedd
Y papur hwn yw’r cyntaf mewn cyfres sy’n dechrau nodi cynigion tai Plaid Cymru cyn etholiad y Senedd yn 2026. Papur 1 yw ein safbwynt polisi ar yr hawl i dai digonol, rhenti teg a fforddiadwyedd. Cliciwch yma i ddarllen y papur.
Adeiladu Dyfodol: Gweledigaeth Plaid Cymru am Drawsnewid Cyflwyno Tai Cymdeithasol yng Nghymru
Mae’r papur hwn yn ymchwilio i’r heriau a’r rhwystrau allweddol i gyflwyno, megis bylchau cyllido, aneffeithiolrwydd y system gynllunio, a’r ffaith nad oes digon o dir ar gael, ac ar yr un pryd mae’n cynnig gweledigaeth o’r newydd ar gyfer Unnos, gan ystyried y rôl strategol y gallai gymryd fel endid cryfach hyd-braich, gyda’r gallu i godi arian yn annibynnol a mwy o bwerau prynu gorfodol. Mae’n gorffen gydag argymhellion y gellir gweithredu arnynt a’r camau nesaf er mwyn gwneud yn siŵr y caiff Cymru ddyfodol cynaliadwy a chyfartal ym maes tai cymdeithasol. Cliciwch yma i ddarllen y papur.
Ydych chi'n hoffi'r dudalen hon?
Dangos 1 ymateb
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter