Mae arweinydd tai Gwynedd, y Cynghorydd Plaid Cymru, Craig ab Iago yn pryderu bod tai yn parhau i ddiflannu o afael pobl leol.
Ar ei garreg drws ei hun yn Llanllyfni, un pwnc sydd wedi cythruddo’r Cynghorydd sydd â chyfrifoldeb dros dai yng Nghyngor Gwynedd yw’r ffaith bod cwmnïau masnachol o Loegr sy’n gwerthu tai yn manteisio ar y farchnad, ac yn marchnata eiddo o safon fel ail dai.
“Rydyn ni’n gwybod bod prinder tai fforddiadwy ledled Cymru a bod rhestrau aros am dai gan gymdeithasau tai yn parhau i dyfu.”
Yn ôl y Cynghorydd, nid yw 60% o drigolion Gwynedd yn gallu fforddio prynu yr un tŷ yn y sir, heb sôn am dai o’r prisiau sydd i’w gweld yn gwerthu yng Ngwynedd ar hyn o bryd.
Yn ychwanegol, mae 40% o’r tai sy’n cael eu gwerthu ar y farchnad agored, sef tua 900 o’r 2250 o dai gaiff eu gwerthu fel tai gan gwmnïau masnachol ar y farchnad agored yng Ngwynedd bob blwyddyn, yn mynd i bobl o du allan i’r sir, fel ail dŷ.
“Mae cael cartref yn egwyddor greiddiol sydd, yn fy marn i, ddim yn cael ei ddiwallu gan bolisïau caeth, hen ffasiwn y Llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd a’r Torïaid yn San Steffan. Mae angen chwyldroi’r sustem ddatblygu a’r system gynllunio yng Nghymru,” yn ôl y cynghorydd sydd â chyfrifoldeb dros y sector dai, cartrefu pobl, rheoli cofrestr dai y sir, digartrefedd, adeiladu ac ôl troed carbon ymysg meysydd eraill.
“Dyw marchnata tŷ ar y farchnad agored fel “second home, but is equally adept as a holiday let… an escape from the hustle and bustle of modern city life as a second home”* ddim yn helpu’r sefyllfa,” yn ôl y cynghorydd.
O fewn ward Llanllyfni, yn Nyffryn Nantlle, lle mae’r Cynghorydd Craig ab Iago a’i deulu yn byw, dyma’r dull (uchod) mae cwmni o Loegr yn marchnata cyn gapel sydd wedi ei drawsnewid yn dŷ, ‘Chapel Moriah’ - cyfle i brynu ail dŷ neu dŷ gwyliau.
“Am bris o £400,000, gallwch chi brynu’r tŷ bendigedig yma yn fy ward i. I’r cwmni o orllewin swydd Efrog sydd, yn amlwg, â dim dealltwriaeth am ogledd orllewin Cymru, does ganddyn nhw ddim syniad y drwg maen nhw’n ei wneud i’r gymuned yma, wrth hyrwyddo’r tŷ yn y ffordd yma.
“Y gwirionedd ydi, nad oes marchnad fawr leol i dŷ o’r math yma, mae’r pris allan o gyrraedd y mwyafrif o bobl leol. £16,000 y flwyddyn ydi cyfartaledd cyflog trigolion Gwynedd. Ac mae hyrwyddo’r cyn gapel yma, yn haerllug o agored, fel hyn, yn rhwbio halen ar y briw.
“Mae’n dangos diffyg ymwybyddiaeth leol, diffyg parch i’r gymuned a diffyg dealltwriaeth o’r tyndra cymunedol sy’n gallu codi ar lawr gwlad.”
Mae’r Cynghorydd wedi cysylltu â’r cwmni, EweMove, i’w hysbysu am ei anfodlonrwydd ac i geisio eu haddysgu am y broblem a’r tyndra gwirioneddol sydd o fewn cymunedau’r sir.
Yn ôl y Cynghorydd Craig ab Iago, sy’n magu tri phlentyn gyda’i bartner, Llio, mae angen trafodaeth aeddfed am gynllunio tai, am yr economi ac am y farchnad dai masnachol.
“Mae ffigyrau tai o’n cwmpas ni yn dychryn rhywun. Ac mae’r llif yn parhau i arwain at golled i gymunedau Gwynedd, wrth i’n trigolion sydd wedi eu magu yma, sy’n gweithio yma, ac sydd am barhau i fyw eu bywydau o fewn Gwynedd, fethu a fforddio prynu cartref o fewn eu milltir sgwâr.
“Yn ystod y cyfnod clo, mae’r 5 neu 6 o dai sydd wedi eu gwerthu yma ar fy stepen drws fy hun, yn Nyffryn Nantlle, wedi mynd i ddwylo trigolion o du allan i Wynedd. Ond dyw Gwynedd ddim yn unigryw, yn hyn o beth.
“Dwi wedi gwneud gwaith ymchwil i’r Ddeddf Tref a Chefn Gwlad 1990, ac mae St Ives, yng Nghernyw wedi defnyddio Cynllun Datblygu Cymunedol i reoli’r drefn gynllunio yno er mwyn sicrhau bod tai yn parhau yn eiddo pobl leol.
“Dros y misoedd nesaf, byddwn fel tîm gwleidyddol, y Blaid, yn trafod gydag Aelodau’r Senedd yng Nghymru, Aelodau Seneddol San Steffan, Gweinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru i weld sut yn union y gallwn ni ddylanwadu ar y drefn ddatblygu tai a chynllunio, yma yng Ngwynedd ac yng Nghymru.”
Yn ôl ffigyrau Cyngor Gwynedd, mae 16% o stoc dai y sir yn dai cymdeithasol a 12% o’r stoc dai yn ail dŷ i’r perchnogion. Gwynedd sydd â’r ffigwr uchaf drwy Gymru o’r stoc dai sy’n ail dŷ, ffigwr o dros 6000.
Y Blaid yng Ngwynedd lwyddodd i ddylanwadu ar y Gweinidog Tai, Julie James, i addasu polisi cefnogi busnesau bychain Llywodraeth Cymru, yn ystod y cyfnod clo, gan sicrhau na fyddai perchnogion ail dŷ yng Ngwynedd, yn derbyn cefnogaeth grant o £10,000 os nad oedden nhw wedi eu cofrestru fel busnes go iawn.
“Roedd posibilrwydd y byddai hyd at £18miliwn o arian o’r pwrs cyhoeddus yn cael ei dalu i berchnogion ail dŷ oedd wedi trosi o’r Dreth Anomestig i Dreth Busnes er mwyn osgoi talu unrhyw dreth o gwbl,” meddai’r Cynghorydd Craig ab Iago
“Roedd hyn yn bryder mawr i mi, cabinet Plaid Cymru Gwynedd ac i bedair o gynghorau eraill Cymru. Byddai wedi bod yn anfoesol i dalu’r arian yma i’r unigolion oedd yn disgyn i’r categori yma.”
Wedi ymgyrch galed, llwyddodd y Blaid yng Ngwynedd i ddylanwadu ar newid i bolisi Llywodraeth Lafur Cymru.
Ydych chi'n hoffi'r neges hon?
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter