Mae llefarydd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg Sian Gwenllian AC, wedi dweud fod Llywodraeth Cymru yn euog o greu dryswch ynglyn a’i bolisi cynllunio o safbwynt y Gymraeg yn sgil cyhoeddi polisi sy’n gwbwl anghyson a’r ddeddfwriaeth.
Dywed Sian Gwenllian fod yn rhaid i’r Llywodraeth diwygio’i ddogfen cynghorol ar ystyriaethau iethyddol yn y broses cynllunio – NTC 20 (TAN20) – am ei fod yn mynd yn groes i Ddeddf Cynllunio.
Mae Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn rhoi dyletswydd ar gynghorau lleol i ystyried yr effaith ar y Gymraeg ym mhob cais cynllunio, tra bod Nodyn Cyngor Technegol y llywodraeth yn dweud na ddylid fel rheol gynnal asesiad o effaith ceisiadau cynllunio ar y Gymraeg.
Dywedodd Cabinet Cysgodol Plaid Cymru ar yr Iaith Gymraeg Sian Gwenllian:
“Mae’r llywodraeth yn euog y greu dryswch ar y pwnc yma. Ni ellir cael ddogfen bolisi sydd yn mynd yn groes i’r ddeddf.
“Fe lwyddodd Plaid Cymru i ddiwygio y Ddeddf Cynllunio er mwyn sicrhau fod rhaid ystyried yr effaith ar y Gymraeg ym mhob cais cynllunio – y tro cyntaf erioed i hyn gael ei osod mewn cyfraith – ond mae’n edrych fel pe bai’r llywodraeth yn ceisio gwanhau’r ddyletswydd hon.
“O ganlyniad i hyn, mae’n aneglur pa ddyletswydd sydd ar gynghorau wrth iddynt ystyried cynlluniau adeiladu mawr hyd at gannoedd o dai.
“Ni all dogfen bolisi newid y gyfraith felly mae’n rhaid i’r Gweinidog ddiwygio’r nodyn cyngor er mwyn cysoni’r ddau beth. Byddaf yn herio’r Gweinidog ar hyn yn y Senedd, ac yn ceisio sicrhau y newid bwysig yma.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter