Y Blaid yn galw am arolwg cenedlaethol i ddeall profiadau menywod o gamwahaniaethu ac aflonyddu
Mae Sian Gwenllian AC, llefarydd Plaid Cymru ar gydraddoldeb, wedi galw ar i Gymru ymuno â’r sgwrs am anghydraddoldeb rhwng y rhywiau ac aflonyddu a gychwynnwyd gan sgandalau diweddar.
Cyn Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018 ar ddydd Iau, galwodd Sian Gwenllian am Arolwg Cenedlaethol i ddeall yn well brofiadau menywod o gamwahaniaethu rhwng y rhywiau ac aflonyddu.
Meddai Sian Gwenllian AC, Ysgrifennydd Cabinet cysgodol Plaid Cymru dros Gydraddoldeb:
“Mae arwyddocâd arbennig i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni yn dilyn sgil y sgandalau diweddar ac ymgyrch #MeToo a ddaeth yn ei sgil. Mae sgwrs newydd wedi cychwyn ac y mae menywod a dynion ifanc yn herio ymddygiad gafodd ei dderbyn yn rhy hir o lawer. Mae gwleidyddiaeth y rhywiau wedi newid am byth.
“Dylai Cymru fod yn arwain y ffordd i fwrw ymlaen â’r newid a gyflymwyd gan #MeToo. Byddai Plaid Cymru yn sefydlu Gweinyddiaeth Gymreig i Fenywod er mwyn cyflwyno Cynllun Gweithredu Menywod i greu’r newid sydd arnom ei angen i roi diwedd ar anghydraddoldeb ac aflonyddu.
“Fedrwn ni ddim troi ein cefnau ar y trafodaethau anodd a phoenus weithiau fu’n digwydd. Os ydym am herio yn effeithiol ddiwylliant sydd wedi caniatáu ymddygiad amhriodol ar lefel unigol ac yn y gymdeithas, mae angen i ni ddeall profiadau menywod yn well. Dylai Cymru gynnal Arolwg Cenedlaethol i ddysgu mwy am brofiadau menywod ac i brocio sgwrs genedlaethol.
“Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, dylem ymrwymo i greu Cymru lle mae aflonyddu rhywiol a cham-drin domestig wedi ei wahardd, lle nad yw anghydraddoldeb mewn gwaith a chyflogau yn cael ei oddef, a lle gall menywod a dynion ddilyn eu huchelgais a’u breuddwydion, yn rhydd o’r llyffetheiriau rhyw a osodwyd arnom ers cyfnod rhy hir o lawer.”
Byddwch y cyntaf i wneud sylw
Mewngofnodi gyda
Mewngofnodi gyda Facebook Mewngofnodi gyda Twitter